- Rhif y Swydd
- SU01369
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 1 Chwef 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 11 Chwef 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Dr Tracey Maegusuku-Hewett (Saesneg/ English) t.maegusuku-hewett@swansea.ac.uk
- Carla Dewick (Cymraeg/ Welsh) Carla.dewick@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae hwn yn swydd am dymor penodol hyd 30 Medi 2028, yn gweithio 28 awr yr wythnos
Mae'r Adran Gwaith Cymdeithasol yn ddarparwr o fri o ran addysg ac ymchwil ym maes gwaith cymdeithasol cyn ac ar ôl cymhwyso. Mae'r adran yn rhan o'r Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn ymroddedig i ddarparu addysg gwaith cymdeithasol cynhwysol o safon ac i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr, dinasyddion, Gofal Cymdeithasol Cymru a'n sefydliadau partner o ran awdurdodau lleol.
Dyma gyfle cyffrous i unigolyn profiadol sy'n siarad Cymraeg yn rhugl, ac sydd â chefndir proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol a hyfforddiant. Bydd y brif rôl yn cynnwys addysgu, asesu a chefnogi myfyrwyr Cymraeg a helpu i gryfhau'r cysylltiadau rhwng ein gwahanol raglenni astudio a'n rhanddeiliaid allweddol drwy'r Gymraeg. Bydd deiliad y swydd yn cydweithio â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r Brifysgol gan lynu wrth strategaeth y Gymraeg a helpu i gyflawni'r targedau a osodwyd ar gyfer y ddarpariaeth Gymraeg a helpu myfyrwyr sydd wedi dewis astudio yn Gymraeg yn y pwnc hwn.
Bydd deiliad y swydd yn rhan o gymuned ehangach o staff academaidd yn Abertawe a ledled Cymru sy'n gweithio tuag at dyfu'r iaith Gymraeg fel cyfrwng addysgu ac ymchwil yn yr Adran Gwaith Cymdeithasol
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr