- Rhif y Swydd
- SU01365
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Gwasanaethau Addysg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 9 Ion 2026
- Interview Dates
- 26 Ion 2026 - 30 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Christian Stevens c.r.stevens@swansea.ac.uk
- Suzanne Wells s.m.wells@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Tîm Datblygu Addysg yn cydweithio â chydweithwyr yn y Cyfadrannau a'r gwasanaethau proffesiynol trwy drafod, myfyrio ac ysbrydoli er mwyn i addysgu ddatblygu'n barhaus ac i fyfyrwyr Abertawe allu achub ar gyfleoedd dysgu gwerthfawr. Gwneir hyn drwy lunio a chefnogi datblygiad addysgeg staff fel bod Abertawe'n parhau i gael ei chydnabod am ei hamgylchedd dysgu ac addysg rhagorol, gan greu effaith gadarnhaol ar brofiad y myfyrwyr.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus ddealltwriaeth gref o addysgeg a phrofiad o gyflawni rhagoriaeth ac arloesi mewn dysgu ac addysgu gydag arbenigedd penodol o ran sut gall dylunio technoleg a dysgu digidol gael eu defnyddio i wella ansawdd addysgu.
Bydd deiliad y swydd yn rhoi cyngor, arweiniad, cymorth a hyfforddiant arbenigol i staff academaidd a rhanddeiliaid allweddol eraill ar draws y brifysgol o ran y defnydd addysgegol priodol o blatfformau dysgu â chymorth technoleg. Bydd hyn yn gofyn am ddealltwriaeth fanwl o dechnolegau a ddefnyddir i gefnogi dysgu yn Abertawe, gan gynnwys Canvas a Turnitin, ymhlith platfformau eraill, ar gyfer dysgu cyfunol, o bell a thraddodiadol.
Bydd y rôl hon yn galw am sgiliau gwaith tîm, ysgogi a chyfathrebu rhagorol, gallu trefnu eich hun, bod yn hyblyg a'r angen i weithio at derfynau amser priodol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr