Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01363
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
15 Ion 2026
Dyddiad Cyfweliad
23 Ion 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yn recriwtio am swydd Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol amser llawn am 30 mis ym Mhrifysgol Abertawe, gan gydweithio â Phrifysgol Aberystwyth a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD). 

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â phrosiect ymchwil nodedig a ariennir gan UKRI sy'n archwilio agweddau gwleidyddol ac ymgysylltiad democrataidd yng Nghymru cyn ac ar ôl yr etholiad i’r Senedd yn 2026. Gan weithio gyda thîm o wyddonwyr gwleidyddol ac arbenigwyr data blaenllaw, bydd y Cydymaith yn chwarae rhan ganolog wrth gyflwyno un o allbynnau mwyaf arloesol y prosiect: dangosfwrdd data cyhoeddus, dwyieithog, mynediad agored a luniwyd i fwyafu hygyrchedd, gwelededd ac effaith data arolwg Astudiaeth Etholiad Cymru 2026.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at baratoi, dadansoddi a delweddu data barn gyhoeddus ar raddfa fawr a helpu i ddatblygu adnoddau a hyfforddiant at ddefnydd academaidd, polisi ac addysgol. Bydd yn gweithio i ddatblygu set ddata graidd yr arolwg gan ddefnyddio data geo-ofodol er mwyn iddo gyd-fynd â data ymchwil gymdeithasol arall sydd wedi'i amgodio'n ddaearyddol.  Bydd yn cefnogi digwyddiadau a gweithdai cyfranogi â rhanddeiliaid y prosiect, gan gyfrannu at gyhoeddiadau a briffiadau, a chefnogi'r tîm i gyflawni cerrig milltir a gofynion adrodd allweddol.

Mae'r rôl yn ddelfrydol ar gyfer ymchwilydd sydd â PhD mewn Gwleidyddiaeth/Gwyddor Wleidyddol, Gwyddor Data neu faes cysylltiedig a sgiliau ymchwil feintiol cryf. Byddai profiad o weithio gyda data arolwg, delweddu data neu ddata cyhoeddus yn fanteisiol.

Bydd y Cydymaith yn elwa o gael mynediad at gyllideb hyfforddiant benodol, yn cael ei fentora gan ymchwilwyr profiadol ac yn cydweithio â thîm Labordy Data WISERD yng Nghaerdydd a Focus Games Ltd yn Glasgow.  Dyma gyfle prin i lywio adnoddau cyhoeddus gydag effaith uchel wrth ddatblygu eich gwaith ymchwil a phroffesiynol eich hun mewn amgylchedd cefnogol a bywiog.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho FHSS-Llyfryn yr Ymgeisydd(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr