Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol mewn sbectrosgopeg fanwl ar wrth-hydrogen
- Rhif y Swydd
- SU01356
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Arall - Gweler y disgrifiad swydd
- Dyddiad Cau
- 18 Ion 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 26 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof Stefan Eriksson s.j.eriksson@swansea.ac.uk
- Prof Niels Madsen n.madsen@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r cydweithrediad ALPHA yn CERN yn syntheseiddio ac yn dal gwrth-hydrogen ar gyfer profion cymesuredd sylfaenol manwl gywir. Mae'r cydweithrediad hwn yn arwain y byd mewn sbectrosgopeg fanwl ac astudiaethau disgyrchol ar wrth-hydrogen. Yn dilyn diweddariad sylweddol i'r offeryniaeth mesureg amledd yn ALPHA, y nod yn awr yw cyflawni neu ragori ar fanwl gywirdeb sbectrosgopeg mewn hydrogen cyffredin. Mae Prifysgol Abertawe'n un o'r aelodau sefydlu ac yn rhanddeiliad o bwys yn y cydweithrediad.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm Abertawe yn CERN a bydd yn dod yn aelod llawn o gydweithrediad ALPHA. Mae gan yr Adran Ffiseg bedwar aelod o staff academaidd parhaol, tri aelod o staff ôl-ddoethurol a phedwar myfyriwr PhD sy'n cyfrannu at brosiect ALPHA yn CERN. Gall hyd y rôl cyfnod penodol hon gael ei ymestyn y tu hwnt i'r cyfnod cychwynnol yn amodol ar gyllid a pherfformiad.
Mae gan yr Adran Ffiseg dri aelod o staff academaidd parhaol, pedwar aelod o staff ôl-ddoethurol a nifer amrywiol o fyfyrwyr PhD sy'n cyfrannu'n rhagweithiol at brosiect ALPHA yn CERN. Mae angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar PhD mewn Ffiseg Arbrofol.
Bydd profiad mewn is-feysydd perthnasol (e.e. ffiseg laser, oeri gan ddefnyddio laser, metroleg amledd, gronynnau neu atomau sydd wedi'u gwefru a'u dal) neu brofiad o rai o'r technegau rydym yn eu defnyddio (er enghraifft cryogeneg, gwactod tra uchel a Labview) yn ddymunol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr