- Rhif y Swydd
- SU01355
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £34,132 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Academi Hywel Teifi
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 7 Ion 2026
- Interview Dates
- 12 Ion 2026 - 13 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Iestyn Llwyd i.llwyd@swansea.ac.uk
- Rhiannon Britton rhiannon.britton@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae’r uned yn chwilio am Weinyddwr (dros gyfnod mamolaeth) i arwain ar weithgaredd y swyddfa weinyddol o ddydd i ddydd, ynghyd ag ysgwyddo cyfrifoldeb dros weithredu systemau data perthnasol.
Mae’r rôl hon yn ganolog i weithrediad dydd-i-ddydd DCABA, gyda chyfrifoldeb am arwain tîm gweinyddol bychan sy’n darparu cyngor a chefnogaeth rheng flaen i ddysgwyr a chydweithwyr. Mae lleoli’r dysgwr wrth galon ein darpariaeth yn egwyddor sylfaenol, ac mae’r rôl yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin, datblygu a chynnal egwyddorion craidd gwasanaeth cwsmer o safon uchel, gan gyfrannu at adeiladu ethos dysgu cadarnhaol a chefnogol.
Mae’r rôl wedi’i lleoli yn ein swyddfa weinyddol ar Gampws Singleton, ond o dro i dro gall fod gofyn i fynychu cyfarfodydd neu ddigwyddiadau allanol, gan gynrychioli DCABA ac eirioli dros fuddiannau AHT a’r Brifysgol.
Ceir manylion llawnach am gyfrifoldebau’r swydd ynghyd â’r manyleb person yn y Swydd Ddisgrifiad.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd neu gred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Fel gweithle cynhwysol a chroesawgar, rydym yn gwerthfawrogi pobl am eu sgiliau, ni waeth beth yw eu cefndir. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na'r rhai hynny a gyflwynir yn Saesneg.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 3 - Rhugl. Bydd deiliad y swydd yn gallu cynnal sgwrs rugl yn y Gymraeg ar fater sy'n gysylltiedig â gwaith ac ysgrifennu deunydd Cymraeg gwreiddiol yn hyderus.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu cais ar-lein yn Gymraeg gan ystyried y meini prawf uchod yn ofalus, ac i ddarparu tystiolaeth sy’n dangos eich gallu i’w cyflawni, ac i amlinellu beth sydd gennych i’w gyfrannu i’r swydd. (Datganiad hyd at 1,000 gair)
Ceir manylion llawnach am y rôl yn y Swydd Ddisgrifiad.
Rhannu Lawrlwytho Llynfryn Lawrlwytho Lynfryn yr Ymgeisydd - PS Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr