- Rhif y Swydd
- SU01354
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 7 Ion 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 10 Chwef 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Rich Fry Research Officer & Data Scientist
- Amy Mizen a.r.mizen@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma swydd am gyfnod penodol tan fis Awst 2029, gan weithio ar sail amser llawn.
Mae grŵp Gwyddor Data Poblogaethau Prifysgol Abertawe (https://popdatasci.swan.ac.uk/cy/) yn cefnogi ymchwil sy'n arwain y byd i ddatblygu offer a methodolegau dadansoddol arloesol i fynd i'r afael â'r heriau ymchwil iechyd mwyaf dybryd. Mae'r grŵp Gwyddor Data Poblogaethau yn gartref i ymchwilwyr a gwyddonwyr data sy'n canolbwyntio ar amrywiaeth o brosiectau a rhaglenni â'r nod o wella gwasanaethau a bywydau pobl drwy ymchwil ym maes gwyddor data poblogaethau. Mae'r tîm amlddisgyblaethol hwn yn gweithio mewn amgylchedd ystwyth a phrysur ac mae’n ymrwymedig i ddangos gwerth gwyddor data i amrywiaeth o gynulleidfaoedd technegol ac annhechnegol.
Mae ein grŵp yn gweithio fel rhan o gydweithrediadau amlddisgyblaethol sy'n cynnwys aelodau'r cyhoedd, ymchwilwyr, llunwyr polisi, ac arweinwyr gwasanaethau ar draws amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y byd academaidd, iechyd cyhoeddus, iechyd a gofal cymdeithasol, a sefydliadau trydydd sector yng Nghymru a'r DU. Mae’r grŵp yn defnyddio ffynonellau data cysylltiedig, dienw cyfoethog ar raddfa'r boblogaeth ac ar lefel unigol gan Fanc Data SAIL (Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel) (www.saildatabank.co.uk) i ateb cwestiynau pwysig ar lefel y boblogaeth sy'n llywio polisi ac yn gwerthuso rhaglenni a phrosiectau cenedlaethol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn defnyddio data sy'n deillio o ledled y DU. Rydym am benodi Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data i ymuno â'n tîm a fydd yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, sefydliadau a grwpiau amrywiol.
Bydd y Swyddog Ymchwil a'r Gwyddonydd Data yn rhan o Hyb CHILI. CHILI yw'r byrfodd ar gyfer Child and adolescent Health Impacts of Learning Indoor environments under net zero. Mae CHILI yn grŵp o ymchwilwyr o wahanol gefndiroedd, gan gynnwys peirianneg, iechyd y cyhoedd, meddygaeth glinigol, ymchwil iechyd meddwl ac addysg, sy'n gweithio ar y cyd i sicrhau bod addysg plant yn cael ei chefnogi a'i gwella wrth i adeiladau ysgolion a meithrinfeydd gael eu gwneud yn amgylcheddol gynaliadwy. Mae CHILI yn un o saith hyb ymchwil drawsddisgyblaethol sy'n archwilio ffyrdd o sicrhau bod trawsnewidiad y DU i sero net hefyd yn diogelu ac yn hyrwyddo iechyd corfforol a meddyliol. Ariennir yr hybiau gan Ymchwil ac Arloesi'r DU (UKRI) a'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR), ceir rhagor o wybodaeth yma: https://www.ukri.org/news/42m-funding-to-ensure-health-is-central-to-net-zero-strategies/ Ymhlith y sefydliadau sy'n arwain CHILI mae: Coleg Prifysgol Llundain, Coleg Imperial Llundain, Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, Prifysgol Abertawe, Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU, Prifysgol Leeds, Sefydliad yr Amgylchedd Stockholm a Phrifysgol Caerefrog.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr