- Rhif y Swydd
- SU01350
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £46,735 i £55,755 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 17 Rhag 2025
- Interview Dates
- 19 Rhag 2025 - 22 Rhag 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
- Dr Dan Rees d.j.rees@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r Academi Dysgu Dwys (ILA) Arloesi yn chwilio am academydd talentog i gefnogi cyflwyno addysg weithredol a dysgwyr proffesiynol perthnasol i gefnogi gweithgareddau a rhaglenni'r ILA Arloesi.
Mae'r Academi Arloesi'n cynnig cyfleoedd addysgol, ymchwil a phroffesiynol sy'n cefnogi trawsnewid a arweinir gan arloesi ar draws sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector. Bydd y rôl hon yn allweddol i gynnal ac ehangu cyrhaeddiad, effaith a chynaliadwyedd yr Academi Dysgu Dwys Arloesi, Agor Innovation, a'i rhaglenni cysylltiedig.
Bydd y rôl yn bwysig er mwyn sicrhau bod Academi Arloesi Cymru Gyfan ar gyfer Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn yr Academi Arloesi'n cael ei chynnal yn llwyddiannus. Gan weithio gyda Chyfarwyddwr ILA Arloesi a thîm ehangach yr Academi Arloesi, canlyniadau uniongyrchol cyflwyno'r rhaglenni dysgu ac addysgu presennol, yn fewnol ac yn allanol, yn ogystal â datblygu darpariaeth yn y dyfodol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus rôl allweddol wrth ddatblygu a chyflwyno gweithgareddau dysgu ac addysgu i gleientiaid yn ogystal â bod yn gyfrifol am ddatblygu darpariaeth addysgol newydd. Yn ogystal, bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at raglen ehangach yr ILA o weithgareddau i hyrwyddo a chynnal portffolio a gwaith ymchwil proffesiynol ac addysgol yr Academi Arloesi.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau rheoli prosiect cryf, deallusrwydd emosiynol, sgiliau cyfathrebu o'r radd flaenaf, llygad craff am fanylion, ymwybyddiaeth wleidyddol a'r gallu i weithio gyda rhanddeiliaid a dylanwadu arnynt.
Mae'r rôl yn gweithredu mewn amgylchedd lle mae diplomyddiaeth, cyfrinachedd a doethineb yn hanfodol, ac mae’r gallu i lunio barn gadarn am gamau gweithredu priodol yn ofynnol. Mae'r llwyth gwaith yn amrywiol, yn heriol ac yn ysgogol, gan alw am sgiliau trefnu personol, hyblygrwydd a'r gallu i weithio i derfynau amser.
Mae'r Ysgol Reolaeth yn chwilio am unigolyn sy'n gyfforddus yn defnyddio ei liwt ei hun a rheoli ystod o randdeiliaid mewn amrywiaeth o sectorau.
Llwybr Gyrfa Academaidd
Mae'r swydd hon ar lwybr Addysg. Dyluniwyd cynllun y Llwybrau Gyrfa Academaidd i sicrhau bod cryfderau academaidd, boed mewn ymchwil, addysgu, profiad ehangach y myfyrwyr, arweinyddiaeth, neu arloesi ac ymgysylltu, i gyd yn cael eu cydnabod, eu datblygu, eu gwerthfawrogi a'u gwobrwyo mewn modd priodol. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr