Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01345
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £39,355 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Rhan Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Bywyd Myfyriwr
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
6 Ion 2026
Interview Dates
15 Ion 2026 - 16 Ion 2026
Ymholiadau Anffurfiol
Kristina Addis k.e.addis@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Dyma gyfle cyffrous i gydlynydd hyblyg, sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, i weithio fel rhan o Wasanaeth Lles y Brifysgol.

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddarparu Mentora Arbenigol (Iechyd Meddwl/Cyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig, fel rhan o'r ddarpariaeth Cynorthwywyr Anfeddygol, a ariennir gan y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd:

  • Roi cymorth un i un i fyfyrwyr a ddyrannwyd i chi gan eu helpu gydag effaith ymarferol eu hiechyd meddwl neu gyflwr ar y Sbectrwm Awtistig ar eu profiad academaidd
  • Cydweithio'n agos a chyfathrebu'n effeithiol â Thîm Lles y Brifysgol i gefnogi'r broses o ymgysylltu â staff academaidd a gwasanaethau'r Brifysgol.
  • Cyflwyno ymyriadau â ffocws i helpu myfyrwyr i reoli eu hiechyd meddwl/awtistiaeth, gan alluogi myfyrwyr i ymgysylltu â'u dysgu, gan gynnwys astudio annibynnol
  • Meddu ar wybodaeth a gwerthfawrogiad am yr ystod o weithgareddau, cyrsiau, cyfleoedd, sefydliadau ac unigolion y gellir eu defnyddio i roi cymorth ychwanegol i fyfyrwyr ac i annog annibyniaeth/
  • Cofnodi'r holl asesiadau, gweithrediadau a chanlyniadau yn glir yn y systemau cofnodi presennol.
  • Cydymffurfio â fframwaith moesegol y Tîm Lles a chôd ymddygiad unigolion proffesiynol, gan gymryd rhan mewn goruchwyliaeth glinigol reolaidd.
  • Bod yn ymwybodol o ymchwil ac ymarfer presennol ym maes awtistiaeth a rhannu arfer gorau.
  • Cydweithredu â gweithdrefnau sicrhau ansawdd fel rhan o ofynion y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl

 

 

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Mae gwiriad DBS manwl yn ofynnol cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr