Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01339
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£23,881 i £25,733 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Gwasanaethau Addysg
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
4 Ion 2026
Dyddiad Cyfweliad
14 Ion 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r rôl hon ar gael am gyfnod penodol tan 2 Hydref 2026.

Prif nod y Cynorthwy-ydd Achosion Myfyrwyr fydd bod yn gyfrifol am y tasgau gweinyddol safonol sy'n gysylltiedig â'r cylch gwaith, gan ganolbwyntio ar y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: rheoli ffeiliau achosion, anfon ymatebion achosion, cynnal templedi a dogfennau safonol ac ateb a datrys ymholiadau. 

Elfen hanfodol o'r rôl yw'r gallu i sicrhau bod data o safon uchel ac yn addas at y diben a bod gwybodaeth, cyngor ac arweiniad yn gywir ac yn addas at y diben.

Yn atebol i'r Rheolwr Achosion Myfyrwyr, bydd deiliad y swydd hefyd yn gweithio'n agos gyda staff Cyfadrannau ar draws y Brifysgol a chydweithwyr mewn adrannau Gwasanaethau Proffesiynol eraill a disgwylir iddo ddarparu gwasanaethau gweinyddol i fyfyrwyr a staff yn ôl yr angen.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn llawn hunangymhelliad, yn rhagweithiol, yn drefnus a dangos y gallu i gyfathrebu ag ystod eang o bobl a gallu parchu lefel uchel o gyfrinachedd.  Bydd gennych chi sgiliau cyfathrebu a threfnu da. Bydd gennych lygad craff am fanylion a'r gallu i weithio i derfynau amser tynn yn cyflwyno canlyniadau mewn amgylchedd sy'n sensitif o ran amser.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

I gyflwyno cais am y swydd hon, bydd angen i chi ddarparu CV a llythyr eglurhaol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio sut rydych yn bodloni'r fanyleb person fel y'i nodir yn y disgrifiad swydd drwy amlygu eich cymwysterau, eich sgiliau a'ch profiad perthnasol mewn llythyr eglurhaol.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr