- Rhif y Swydd
- SU01331
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 2 Ion 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 9 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof Mary Gagen m.h.gagen@swansea.ac.uk
- Dr Angharad Closs Stephens (Head of Department) a.c.stephens@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ddarparu'r safon addysgu a phrofiad myfyrwyr gorau. Mae'r rôl yn hanfodol i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw. Bydd y Cymrawd Addysgu'n angerddol am ddaearyddiaeth, addysg a gweithio gyda myfyrwyr a bydd yn ymrwymedig i wella ansawdd addysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr yn ein Hadran.
Bydd yn cyfrannu at gyflwyno dysgu ac addysgu rhagorol mewn amrywiaeth o ffyrdd a lleoliadau, fel, ond heb fod yn gyfyngedig i, grwpiau tiwtorial bach, gweithdai, dosbarthiadau ymarferol, cyrsiau maes a darlithoedd mawr. Gall hyn gynnwys datblygu ei ddeunydd addysgu ei hun neu ddiweddaru’r deunyddiau addysgu presennol, gosod a marcio asesiadau a rhoi adborth amserol i fyfyrwyr. Yn ogystal, gall y Cymrawd Addysgu gyfrannu at recriwtio, gwaith allgymorth a gweithgareddau cymorth eraill i fyfyrwyr.
Dylai'r Cymrawd Addysgu Daearyddiaeth fod ar gael i gyflwyno addysgu ac addysg i fyfyrwyr yn ystod oriau amserlen addysgu craidd penodedig y Brifysgol; cymorth ar gyfer mathau anhraddodiadol o addysg, recriwtio a gweithgarwch allgymorth, a fydd efallai'n golygu rhywfaint o weithio y tu allan i oriau gyda'r hwyr neu ar y penwythnos (er enghraifft i gefnogi Diwrnodau Agored UCAS).
Mae rôl y Cymrawd Addysgu Daearyddiaeth yn canolbwyntio'n llwyr ar ddarparu addysg o ansawdd uchel, recriwtio myfyrwyr a chynnig profiad rhagorol i fyfyrwyr. Felly, nid oes disgwyl na hawl i'r Cymrawd Addysgu Daearyddiaeth ymgymryd ag ymchwil nac ysgolheictod gwreiddiol, ar wahân i'r hyn sy'n angenrheidiol i gyflawni ei rôl yn effeithiol.
Mae'r swydd yn gofyn am gyfraniad at addysgu, asesu a goruchwylio myfyrwyr yn yr Adran Ddaearyddiaeth, ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd hon ddarparu dysgu ac addysgu o safon uchel i fyfyrwyr, ac ymrwymiad i wella profiad cyffredinol y myfyrwyr.
- Cyfrannu at addysgu modiwlau Daearyddiaeth, lefel 4 i 7
- Cefnogi gwaith ymarferol ar gyfer myfyrwyr Daearyddiaeth
- Cefnogi gweithgareddau recriwtio ac allgymorth yr adran
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr