Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01327
Math o Gytundeb
Contract anghyfyngedig
Cyflog
£39,355 i £45,413 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
9 Ion 2026
Dyddiad Cyfweliad
21 Ion 2026
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym yn dymuno penodi unigolyn sy'n llawn cymhelliant i gyfrannu at waith addysgu a datblygiad pellach ein portffolio o raglenni a modiwlau Gwyddor Actiwaraidd, sy'n rhan o'r Adran Fathemateg, ac i ymgymryd ag agenda ymchwil arbennig.

Bydd y swydd hefyd yn cynnwys cynghori myfyrwyr, goruchwylio prosiectau israddedig ac ôl-raddedig a chwarae rôl weinyddol yng ngweithrediadau dyddiol yr Adran.

Cynigir y swydd hon ar y Llwybr Addysg ac Ymchwil (Llinyn Ymchwil).

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

  1. Meddu ar hanes blaenorol cryf o ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ym maes gwyddor actiwaraidd, ystadegaeth, gwyddor data ystadegol, neu fathemateg ariannol.
  2. Meddu ar sgiliau a phrofiad i ymgymryd â gwaith addysgu a datblygiad pellach ein modiwlau Gwyddor Actiwaraidd arbenigol a modiwlau Mathemateg Ariannol neu Ystadegaeth perthnasol.
  3. Cyfrannu at reolaeth beunyddiol a gwelliant parhaus ein rhaglenni Gwyddor Actiwaraidd, a chynnal yr aliniad rhwng strwythur y rhaglen a maes llafur egwyddorion craidd Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid (IFoA).
  4. Ymwneud â’r gymuned actiwaraidd broffesiynol ac arwain y gwaith o hyrwyddo opsiwn Blwyddyn mewn Diwydiant y rhaglen BSc Gwyddor Actiwaraidd.

Mae Adran Fathemateg Prifysgol Abertawe'n uchel ei bri am addysgu ac ymchwil: roedd yn y 3ydd safle yn y DU am Foddhad Myfyrwyr yn The Complete University Guide 2025, yn 13egd yn y DU yn The Guardian University Guide 2026, ac yn REF 2021, roedd yn gydradd 16eg yn y DU am ansawdd cyffredinol ei gwaith ymchwil ac yn gydradd gyntaf am effaith, gyda 100% o achosion effaith wedi'u nodi'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac roedd 100% o gyhoeddiadau'r adran yn arwain y ffordd yn fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae'r Adran yn cynnal pum grŵp ymchwil: Algebra, Geometreg a Thopoleg, Dadansoddi a Hafaliadau Differol Rhannol Aflinol, Biofathemateg, Mathemateg Gyfrifiadol, a Thebygolrwydd. Mae'r adran ar Gampws y Bae yn y Ffowndri Gyfrifiadol newydd gwerth £31m a adeiladwyd yn bwrpasol, sef cartref yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr