- Rhif y Swydd
- SU01324
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £39,355 i £45,413 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 7 Rhag 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 15 Rhag 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Marcos Del Pozo Banos m.delpozobanos@swansea.ac.uk
- Amanda Marchant a.l.marchant@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Swydd amser llawn am gyfnod penodol yw hon tan 31 Rhagfyr 2027.
Rydym yn chwilio am ymchwilydd medrus i ymuno â'r tîm Atal Hunanladdiad ac Iechyd Meddwl (SPMH) ym Mhrifysgol Abertawe, dan arweiniad yr Athro Ann John. Mae'r swydd hon yn gyfle eithriadol i gyfrannu at ymchwil flaengar i iechyd meddwl poblogaethau, gan weithio ar brosiectau sy'n rhan o bortffolio gwerth mwy na £10M, gan gynnwys Datamind, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.
Yn y rôl amlddisgyblaethol hon, byddwch yn gweithio gyda data gofal iechyd ar raddfa fawr, gan ganolbwyntio ar iselder sy’n dechrau’n gynnar a chanlyniadau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Byddwch yn cyfrannu at ymchwil sy'n cael effaith ar feysydd megis iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ac atal hunanladdiad.
Rydym yn chwilio am Epidemiolegwr Seiciatrig i ymuno â ni ar brosiect Wolfson sy'n torri tir newydd, fel rhan o'r tîm Atal Hunanladdiad ac Iechyd Meddwl (SPMH) ehangach ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r rheolwyr prosiect a'r tîm ymchwil ehangach i ymchwilio i ragfynegyddion iselder a gorbryder a'u canlyniadau clinigol. Nod prosiect Wolfson yw gwella dealltwriaeth o ffactorau risg ar gyfer iselder a gorbryder ymhlith pobl ifanc a lledaenu'r canfyddiadau hyn drwy gyhoeddiadau ac i'n rhanddeiliaid allanol drwy bapurau briffio polisi a chyflwyniadau mewn cynadleddau.
Mae brwdfrydedd am gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles yn hanfodol. Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu at brosiect blaengar sy'n canolbwyntio ar ymchwil arloesol, cydweithredu a datblygu strategaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr