- Rhif y Swydd
- SU01323
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Rhan Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 9 Ion 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 19 Ion 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Melitta McNarry M.McNarry@Swansea.ac.uk
- Sam Dredge WIPAHS@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Oriau gwaith: 28 awr yr wythnos
Contract: 31/07/26
Rydym am benodi Cynorthwy-ydd Ymchwil trefnus a llawn cymhelliant i gefnogi'r gwaith o gyflawni Mynegai Polisi'r Amgylchedd Gweithgarwch Corfforol (PA-EPI) yng Nghymru — prosiect cenedlaethol a fydd yn meincnodi polisi ac isadeiledd gweithgarwch corfforol presennol ac yn tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer gweithredu'n gryfach. Dyma swydd am dymor penodol o saith mis a fydd yn cynnig y cyfle i gyfrannu at waith proffil uchel a fydd yn llywio gwneud penderfyniadau strategol ar draws y llywodraeth, byd iechyd y cyhoedd a sefydliadau partner.
Mae'r rôl yn rhan o Sefydliad Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Chwaraeon Cymru (WIPAHS) — partneriaeth genedlaethol rhwng pob un o'r wyth sefydliad addysg uwch ledled Cymru a Chwaraeon Cymru, gan weithio ar y cyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae WIPAHS yn darparu amgylchedd cefnogol a rhyngddisgyblaethol ynghyd â chysylltiadau cryf â pholisi ac ymarfer, gan gynnig cyfleoedd ardderchog ar gyfer datblygiad proffesiynol ac effaith ystyrlon.
Fel Cynorthwy-ydd Ymchwil, byddwch yn cyfrannu at gasglu a syntheseiddio tystiolaeth ar bolisïau sy'n dylanwadu ar weithgarwch corfforol yng Nghymru. Byddwch yn adolygu ac yn crynhoi tystiolaeth ddogfennol, yn cefnogi trefnu deunyddiau prosiect ac yn paratoi adnoddau ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu. Bydd rhan ganolog o'r rôl yn cynnwys cydlynu ymgysylltiad rhanddeiliaid â llunwyr polisi, ymarferwyr ac arbenigwyr y sector. Mae hyn yn cynnwys cefnogi ymarferion dilysu a graddio tystiolaeth a chynorthwyo wrth ddylunio a chyflwyno gweithdai sy'n helpu i flaenoriaethu camau gweithredu ar draws y meysydd PA-EPI. Byddwch hefyd yn cyfrannu at ddrafftio'r adroddiad meincnodi terfynol a'r allbynnau cysylltiedig, megis crynodebau gweithredol a briffiau polisi.
Mae'r rôl hon yn addas i rywun sydd â phrofiad neu ddiddordeb cryf mewn iechyd y cyhoedd, gweithgarwch corfforol, dadansoddi polisi neu ddulliau systemau. Byddwch yn hyderus yn cyfathrebu ag ystod o bartneriaid, yn gallu syntheseiddio gwybodaeth gymhleth ac wedi'ch ysgogi gan ymchwil sy'n llywio'n uniongyrchol bolisi ac ymarfer ar lefel genedlaethol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr