Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU01310
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£46,735 i £55,755 y flwyddyn
Patrwm Gweithio
Llawn Amser
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
7 Rhag 2025
Dyddiad Cyfweliad
15 Rhag 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Swydd am gyfnod penodol yw hon tan fis Rhagfyr 2026, gan weithio’n amser llawn.

Mae SeRP yn recriwtio Rheolwr Prosiectau Technegol i reoli prosiectau data cyfunol sydd wrthi'n trawsnewid sut mae ymchwilwyr yn y DU yn cysylltu, yn rhannu ac yn dadansoddi data'n ddiogel er mwyn cael effaith go iawn o ran gwyddoniaeth ac iechyd.

Byddwch yn gweithio ar draws sawl prosiect cydgysylltiedig, gan ymgymryd â rôl hanfodol wrth reoli gweithgareddau, cynnal momentwm a sicrhau bod yr holl bartneriaid yn cyflawni cerrig milltir prosiectau. Byddwch yn gweithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr Rhaglen, Arweinwyr Pecyn Gwaith a grwpiau llywodraethu er mwyn goruchwylio gwaith cynllunio, adrodd a chyfathrebu ar draws parthau technegol, llywodraethu a gwyddonol.

Mae'r rôl yn cynnwys:

  • Datblygu a chynnal cynlluniau cyflwyno prosiectau, cofrestrau risg ac adroddiadau cynnydd.
  • Cydlynu strwythurau llywodraethu prosiectau a chyfranogiad rhanddeiliad.
  • Cydlynu gwaith contractio, recriwtio partneriaid a gweithgareddau cyflawni prosiectau.
  • Goruchwylio llunio dogfennau ac adroddiadau a chydymffurfio â gofynion cyllidwyr.
  • Meithrin amgylchedd cydweithredol ar draws timau technegol a sefydliadol.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr