- Rhif y Swydd
- SU01299
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £88,216 i £88,216 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 9 Rhag 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 18 Rhag 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Chris Horn c.r.horn@swansea.ac.uk
- Jonathan Harikrishnan jonathan.harikrishnan@wales.nhs.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r cynllun arloesol a chyffrous hwn yn gyfle arbennig i Feddygon Teulu newydd gymhwyso neu sefydledig sydd eisiau ennill gwybodaeth a phrofiad mewn addysg feddygol ac ymchwil. Yn ogystal â'r cyflog cystadleuol, mae cyllid ar gael i'r ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â chymwysterau uwch yn eu maes diddordeb a hefyd i fynychu/gyflwyno mewn cynadleddau. O'r cyfleoedd a gynigir gan y cynllun, mae Cymrodorion blaenorol wedi gallu sefydlu gyrfa bortffolio, gan gyfuno gwaith fel Meddyg Teulu dag addysg feddygol, ymchwil, neu'r ddau.
Mae'r rôl yn gyfle euraidd i ymuno ag Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sydd ymysg y pum Ysgol Feddygaeth orau yn y DU (Times Good University Guide 2023). Mae'r Ysgol yn y safle 1af yn y DU am Amgylchedd Ymchwil ac yn 2il am Ansawdd Cyffredinol yr Ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014-2021).
Bydd Cymrodorion Academaidd amser llawn yn gweithio yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe am dri diwrnod yr wythnos, lle gallant, dan oruchwyliaeth, archwilio rhai o'r cyfleoedd addysgu ac ymchwil helaeth sydd ar gael. Am y ddau ddiwrnod arall, byddant mewn meddygfa teulu (ym Myrddau Iechyd Hywel Dda, Powys neu Fae Abertawe). Dros y ddau ddiwrnod hyn o ymarfer, bydd tair sesiwn yn cael eu clustnodi i waith clinigol, ac un sesiwn i'r Cymrawd ddatblygu gwasanaethau a systemau a all wella gofal cleifion ar gyfer y boblogaeth leol. Caiff amser ei ddyrannu i Gymrodorion rhan-amser yn ôl eu gofynion unigol. Er enghraifft, bydd Cymrawd sy'n gweithio 60% CALl yn y Brifysgol ddeuddydd yr wythnos a'r diwrnod ychwanegol yn y Feddygfa Teulu.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhaid darparu tystysgrif DBS foddhaol cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.
Rôl am gyfnod penodol o ddwy flynedd yw hon; Bydd y Cymrodorion yn gweithio mewn lleoliadau gwahanol am gyfnod o flwyddyn (h.y. dau leoliad yn ystod y rhaglen). Caiff meddygfeydd eu gwerthuso gan Gyfarwyddwyr y Rhaglen cyn i Gymrawd gael ei osod yno, ac wedi'r lleoliad, a thrafodir lleoliadau posib â'r ymgeiswyr llwyddiannus cyn eu dyrannu.
Mae'r swyddi'n debygol o ddechrau ym mis Ionawr 2026, ond mae'r dyddiad dechrau yn hyblyg. Anogir ymgeiswyr sydd eisiau ymuno â’r cynllun Cymrodoriaeth ar sail rhan-amser i gyflwyno cais.
Mae rhagor o wybodaeth ac adolygiadau ar gael yma - https://www.gpfellowshipscheme.co.uk/
Rhannu Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr