- Rhif y Swydd
- SU01293
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 20 Ion 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 5 Chwef 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof David Penney d.penney@swansea.ac.uk
- Prof Nick Lavery n.p.lavery@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
O 1 Mawrth 2026, bydd angen Cynorthwy-ydd Ymchwil (am gyfnod o 36 mis) i gynnal ymchwil fel rhan o raglen IGNITE, mewn cydweithrediad â Rolls-Royce, LSN Diffusion a Phrifysgolion Caerlŷr, Sheffield a Warwig, Birmingham, Rhydychen, Manceinion, Sheffield ac Imperial. Ystyr IGNITE yw Indigenous Green-steel for Net-zero Innovation, Technology and Enterprise a chaiff ei ariannu drwy fuddsoddiad o £11m gan y Cyngor Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (EPSRC) fel rhan o'u rhaglen flaenllaw Hybiau Ymchwil Gweithgynhyrchu Cynaliadwy. Mae'r rhaglen hefyd yn elwa o gyllid gan bartneriaid gwerth £11.9M. Prif nod IGNITE yw cyflawni gwydnwch strategol, amgylcheddol ac economaidd ar gyfer sectorau allweddol economi gweithgynhyrchu'r DU, gan gynnwys amddiffyn, trafnidiaeth ac ynni.
Bydd deiliad y swydd yn ymuno â'r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ar Gampws y Bae, gan ddefnyddio cyfarpar a chyfleusterau yn y Sefydliad Deunyddiau Strwythurol (ISM), cyfleusterau Adeilad Gogleddol Peirianneg (MACH1) a'r Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Peilot (PMRC) ym Maglan. Prif weithgareddau ymchwil yr adrannau cysylltiol yw gweithgynhyrchu deunyddiau perfformiad uchel uwch a'u nodweddu'n fecanyddol, yn electrogemegol ac o ran deunyddiau.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr