Dr Will Newton

Uwch-ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol, Mechanical Engineering

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
310
Trydydd Llawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Will yn ddarlithydd Dylunio sy'n angerddol am bopeth ym maes Dylunio a Diwydiant. Mae wedi treulio ei yrfa academaidd gyfan yn gweithio ar broblemau sy'n berthnasol i ddiwydiant, ac mae'n parhau â'r thema hon ym mhob rhan o’i waith addysgu. Mae ganddo raddau a Doethuriaeth Peirianneg mewn Peirianneg Fecanyddol o Brifysgol Caerlŷr a Phrifysgol Abertawe. Treuliodd Will beth amser yn y diwydiant yn gweithio fel Peiriannydd Tendro cyn y cychwyn ar yrfa yn y byd academaidd. Mae wedi gweithio fel ymchwilydd a chydgysylltydd prosiect ar brosiectau fel Uwch Dechnolegau Gweithgynhyrchu Cynaliadwy (ASTUTE), Project Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi (Campws y Bae) a'r Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu (M2A).

Cymerodd Will ei ddarlithiaeth gyntaf ym Maes Peirianneg Fecanyddol UCL, gan ganolbwyntio ar Gydlynu Diwydiannol a Phroffesiynol. Roedd yn arweinydd modiwl ar Ddylunio a Sgiliau Proffesiynol II ac yn diwtor modiwl ar Brosiectau Dylunio Grŵp MEng Capstone. Yn ogystal â'i weithgareddau addysgu a goruchwylio, bu ganddo nifer o rolau arwain gan gynnwys Tiwtor Blwyddyn 4, Tiwtor Blwyddyn mewn Diwydiant. Yn ystod ei gyfnod yn yr adran, creodd Will Fwrdd Cynghori, a’i gydlynu. Bu’n gadeirydd am flwyddyn. Roedd yn rhan o'r tîm a greodd Mech Space, sef gweithdy pwrpasol i fyfyrwyr. Mae'n parhau â'i gysylltiad â Pheirianneg Fecanyddol UCL fel Athro Cyswllt Anrhydeddus.

Meysydd Arbenigedd

  • Dylunio Peirianneg
  • Gweithgynhyrchu
  • Modelu cyfrifiadol
  • Trosglwyddo Gwres

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Dylunio Peirianneg

Dysgu ar Sail Problemau

Prosiectau Grŵp

Ymchwil Cydweithrediadau