Dr Tamsyn Uren Webster

Dr Tamsyn Uren Webster

Darlithydd, Biosciences
Swyddfa Academaidd - 108
Llawr Cyntaf
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio'n fras ar effeithiau heriau amgylcheddol ar iechyd anifeiliaid ac ecosystemau. Rwy'n defnyddio dulliau moleciwlaidd er mwyn egluro mecanweithiau effaith niweidiol a hefyd er mwyn canfod a all organeddau addasu at newidiadau yn eu hamgylchedd, a sut. Yn benodol, mae gennyf ddiddordeb mewn archwilio'r potensial ar gyfer ymatebion ymaddasol cyflym i straenachoswyr amgylcheddol, megis y rhai drwy gyfrwng microbïomau sy'n lletya a mecanweithiau epigenetig.

Meysydd Arbenigedd

  • Dyframaethu cynaliadwy
  • Ecotocsicoleg
  • Microbïomau
  • Epigeneteg
  • Transgriptomeg
  • Genomeg amgylcheddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rwy'n gydlynydd modiwl ar gyfer BIO258 Ffisioleg Anifeiliaid, gan archwilio 'sut mae anifeiliaid yn gweithio' a sut maent yn ymateb i'r amgylchedd a'r heriau ynddo. Hefyd, rwy'n addysgu ar fodiwl BIO340 Sgiliau Labordy Proffesiynol, sy'n gwrs dwys gan ganolbwyntio ar dechnegau moleciwlaidd.

Ymchwil