Trosolwg
Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â hanes y Byd Cristnogol Lladin – yr ardal sy'n glynu'n enwol at y ddefod Ladin – yng nghanol yr Oesoedd Canol. Mae llawer o'm gwaith yn ymwneud â'r cyfnod o 1050 i 1250, ac mae'n canolbwyntio ar themâu gan gynnwys effaith gymdeithasol-ddiwylliannol y croesgadau yn y Byd Cristnogol Lladin, damcaniaeth ac ymarfer ysgrifennu hanesyddol, trosglwyddo a derbyn testunau, agweddau canoloesol tuag at wirionedd hanesyddol a'r gorffennol, meddwl gwleidyddol ar frenhiniaeth. Hefyd, mae gennyf arbenigedd mewn canoloesoldeb, hynny yw, canfyddiadau o'r Oesoedd Canol yn yr oes fodern. Mae fy ngwaith mwy diweddar yn archwilio sut mae cerfluniau cyhoeddus o ffigurau canoloesol a grëwyd ers 1800 yn llywio naratif am y gorffennol canoloesol.
Mae fy ngwaith ar y prosiect hwn wedi'i noddi gan yr Academi Brydeinig a Leverhulme ac wedi ategu nifer o fentrau eraill, gan gynnwys erthygl yn 2021 yn y Journal of Victorian Culture, erthygl ar gyfer History Today (‘Statues, politics and the past’, History Today, Medi 2019, tt. 90-93); ac ymddangos ar bodlediad cylchgrawn BBC History, sefpodlediad HistoryExtra ym mis Mehefin 2020 i drafod cerflun Richard I yn San Steffan (‘Lionheart of stone: the medieval statue debate’).