Dr Richard Metcalfe

Dr Richard Metcalfe

Uwch-ddarlithydd, Sport and Exercise Sciences

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - A117
Llawr Cyntaf
Adeilad Dwyreinol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n Ddarlithydd mewn Ffisioleg Iechyd ac Ymarfer Corff o fewn y Grŵp Ymchwil Technoleg, Ymarfer Corff a Meddygaeth Chwaraeon Gymhwysol (ASTEM). Graddiais gyda BSc (Anrh) mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff o Brifysgol Heriot-Watt yng Nghaeredin yn 2010, gan gwblhau fy PhD ym Mhrifysgol Caerfaddon (2010-2015) dan oruchwyliaeth Dr Niels Vollaard a'r Athro Dylan Thompson. Ymunais â Phrifysgol Abertawe ym mis Hydref 2017, ar ôl treulio 3 blynedd yn gweithio fel Darlithydd mewn Ymarfer Corff ac Iechyd ym Mhrifysgol Ulster yng Ngogledd Iwerddon (2014-2017).

Meysydd Arbenigedd

  • Ffisioleg Ymarfer Corff
  • Metabolaeth Ymarfer Corff
  • Hyfforddiant Seibiannol Dwysedd Uchel
  • Diabetes Math 2
  • Ymwrthedd i Inswlin
  • Addasiadau Hyfforddi

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae fy niddordebau ymchwil yn rhychwantu ffisioleg integreiddiol ymarfer corff a maethiad, ond mae fy mhrif ffocws ymchwil ar fanteision iechyd hyfforddiant seibiannol dwysedd uchel sy'n effeithlon o ran amser (HIT). Nod y llinyn hwn o ymchwil yw 'optimeiddio' protocolau HIT ar gyfer poblogaethau eisteddog drwy eu gwneud yn fyrrach ac yn haws tra'n cadw'r manteision iechyd cysylltiedig. Mae 10 mlynedd olaf fy ymchwil wedi arwain at brotocol ymarfer corff nad yw'n cymryd mwy na 10 munud i'w gwblhau (2 waith yr wythnos) a heb gynnwys mwy na 40 eiliad o ymarfer dwysedd uchel. Mae gan y protocol hwn, a elwir yn HIT ymdrech-gostyngol (REHIT), botensial mawr i gael gwared ar lawer o'r rhwystrau sy'n atal unigolion eisteddog rhag elwa ar fanteision iechyd ymarfer corff rheolaidd.