An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Regina Poertner

Dr Regina Poertner

Athro Cyswllt, History

Cyfeiriad ebost

122A
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae fy mhrif arbenigedd a’m diddordebau yn hanes y gyfraith, ei sylfeini deallusol, ai hymwneud â chymdeithas ar economi. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn diwygio cyfreithiol ai gyfyngiadauMae fy niddordebau ymchwil eraill yn ymwneud â hanes syniadaeth wleidyddol orllewinol. 

Dechreuais ym maes y cyfnod modern cynnar, ac mae fy nghyhoeddiadau blaenorol yn cynnwys monograffau ar y Gwrth-Ddiwygio yn y frenhiniaeth Habsbwrg (OUP 2001), ac ar ddadleuon cyfansoddiadol Rhyfel Cartref Prydain (Duncker & Humblot, Berlin, 2009). Mae fy ymchwil wedi’i ariannu’n allanol gan yr Academi Brydeinig a chyrff ariannu rhyngwladol, ac ar hyn o bryd rwy’n Brif Ymchwilydd ar brosiect a ariennir gan yr AHRC mewn cydweithrediad â’r Oriel Bortreadau Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae gennyf brofiad o weithio gyda’r cyfryngau ac ysgolion, a gyda sefydliadau partner yn y DU, Ewrop, a’r Unol Daleithiau. Mae gennyf ddiddordeb mewn datblygu cydweithrediadau pellach gyda phartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. 

Rwy’n croesawu ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr ôl-raddedig, a byddwn yn hapus i roi cyngor ar bynciau addas ar gyfer prosiectau ymchwil Meistr a PhD.

Meysydd Arbenigedd

  • Hanes Modern Cynnar (1450-1800)
  • Hanes y Gyfraith
  • Hanes Syniadaeth Wleidyddol y Gorllewin