Trosolwg
Mae Dr Roberta Magnani yn ymchwilydd ac addysgwr ymroddedig sydd wedi cyhoeddi’n helaeth ar bynciau sy’n ymwneud â llenyddiaeth ganoloesol hwyr a theori rhywedd. Yn 2013, derbyniodd Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu Prifysgol Abertawe. Hi yw Cyfarwyddwr GENCAS, Canolfan Ymchwil i’r Rhywiau a Diwylliant mewn Cymdeithas y Brifysgol, yn ogystal ag Arweinydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Ar hyn o bryd, hi hefyd yw Is-lywydd Cymdeithas Ryngwladol Ysgoloriaeth Ffeministaidd Ganoloesol(SMFS).