Dr Rachel Harrad

Lecturer in Psychology
Psychology

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602887

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
203
Ail lawr
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Darlithydd mewn Seicoleg yw Dr Rachel Harrad; mae'n arwain y modiwl 'Datblygiad Proffesiynol a Chymhwyso Ystadegau a Dulliau Ymchwil' yn y flwyddyn gyntaf, a bu'n arwain modiwl dewisol yn y drydedd flwyddyn sef 'Seiberseicoleg' ac mae'n addysgu'r modiwl ‘Sgiliau a Datblygiad Academaidd Ôl-raddedig'. Mae Rachel yn goruchwylio prosiectau ymchwil myfyrwyr blwyddyn olaf israddedig ac MSc.

Mae ei diddordebau ymchwil yn eang ond yn dod o dan y prif themâu canlynol: 

Mae gan Rachel ddiddordeb mewn gwaith sy'n gwella profiad y myfyrwyr ac yn ceisio cynnwys safbwynt seiberseicoleg yn ei gwaith. Mae hyn yn cynnwys y raddfa Ymgysylltiad Myfyrwyr Ar-lein; fe'i defnyddiwyd, ar y cyd â chydweithwyr, i asesu effaith ffactorau gan gynnwys personoliaeth ar ymgysylltiad myfyrwyr ag amgylchedd dysgu ar-lein, ac mae hi wedi gweithio gyda chydweithwyr rhyngwladol i ddilysu'r raddfa yn yr iaith Eidaleg er mwyn ei defnyddio y tu hwnt i wledydd Saesneg eu hiaith.

Rachel yw Golygydd Adran Rhyw a Pherthnasoedd yr International Encyclopedia of Cyberpsychology sydd ar ddod gan Palgrave.

Mae gan Rachel ddiddordebau ymchwil mewn uniondeb academaidd myfyrwyr a chamymddygiad academaidd gyda phwyslais penodol ar ddeall ffactorau demograffig a ffactorau ehangach a all ddylanwadu ar ddod yn rhan o brosesau camymddygiad academaidd, o ran ffactorau amddiffynnol a risg, gyda chefndir o feirniadaeth o'r termau camymddygiad academaidd ac uniondeb academaidd, yn benodol y potensial i gamgymeriadau anfwriadol gael eu cymysgu â diffyg uniondeb neu gamymddygiad bwriadol.

Mae gan Rachel ddiddordeb hefyd mewn materion sy'n ymwneud â nyrsio a gofal iechyd, ac mae hi wedi gwneud gwaith ym maes iechyd meddwl amenedigol yn ystod COVID-19. Mae Rachel wedi bod yn rhan o waith sy'n archwilio gwerth ymyriad plannu fel ecotherapi drwy gymuned ar-lein o ran lles ac ansawdd bywyd, ac mae ganddi ddiddordeb mewn rhagnodi amgen a sut y gall hyn wella canlyniadau i gleifion

Meysydd Arbenigedd

  • Seiberpsychology
  • Datblygu sgiliau awduraeth academaidd ac uniondeb academaidd.
  • Profiad Myfyrwyr.
  • Nyrsio a materion gofal iechyd cysylltiedig.