Mr Nick Andrews

Mr Nick Andrews

Swyddog Ymchwil, Social Work

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606380

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Mae Nick yn Weithiwr Cymdeithasol cofrestredig, a chanddo lawer o flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cymdeithasol, gofal cymdeithasol ac addysg gymdeithasol ar draws gwasanaethau plant ac oedolion. Ers 2013, mae wedi bod yn gweithio yn Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe lle mae’n arwain y rhaglen Datblygu Arfer a Gyfoethogir gan Dystiolaeth (DEEP). Nod y rhaglen hon yw pontio rhwng ymchwil ac arfer ym maes gofal cymdeithasol, drwy ymagweddau cydweithredol at ymchwil, polisïau a datblygu arfer. Mae’n gweithio gydag ystod eang o awdurdodau lleol, sefydliadau eraill ym maes polisi ac arfer ynghylch gofal cymdeithasol, sefydliadau academaidd a sefydliadau cymunedol. Hefyd mae Nick yn addysgu ar y cwrs Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.

Meysydd Arbenigedd

  • Polisi gofal cymdeithasol
  • Arfer gwaith cymdeithasol
  • Ymagweddau gwerthfawrogol, traethiadol a deialog at ddysgu a datblygu
  • Datblygu cymunedol
  • Rhwydweithio
  • Hwyluso gweithdai ac ymchwil weithredu gyfranogol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ymagweddau gwerthfawrogol, traethiadol a deialog at ddysgu – yn seiliedig ar addysgeg gymdeithasol, dysgu gweithredol a thechnegau sy’n gysylltiedig gan gynnwys y Gymuned Archwilio, y Drafodaeth Ymchwiliol a’r Newid Mwyaf Arwyddocaol.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau