Dr Merryn Thomas

Dr Merryn Thomas

Uwch Ardal Adfywio, Public Health

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 205678 ext 1536

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol

Trosolwg

Mae fy ngwaith ymchwil yn rhyngddisgyblaethol o ran natur ac yn defnyddio daearyddiaeth, seicoleg a gwyddor gymdeithasol i ymchwilio i’r ffordd y mae pobl yn ymwneud â’u hamgylchedd. Mae gennyf ddiddordeb hirsefydlog mewn defnyddio dulliau creadigol ac arloesol i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o’r cyhoedd, gan gynnwys cyfweliadau modelau meddwl, gweithdai ymgynghori, chwarae rôl, cyfweliadau rhannol-strwythurol, dulliau symudol a ffotograffeg.
Mae gennyf ddiddordeb arbennig ym mhotensial dulliau o’r fath i helpu i gyfleu cysylltiadau mwy anniriaethol â natur.

Ar hyn o bryd, rydw i’n cydweithio â’r tîm FIRE Lab yn yr adran Biowyddorau er mwyn archwilio cysylltiad pobl ifanc ag amgylcheddau dŵr croyw. Rydym yn defnyddio dulliau celf-wyddoniaeth gan gynnwys barddoniaeth a darlunio, sy’n seiliedig ar y wefan bwrpasol FIRE Lab Kids.

Fe wnes i gwblhau fy Noethuriaeth yn 2013 gan ddefnyddio’r fformiwla o ddulliau cymysg a modelau meddwl i ymchwilio i ganfyddiadau’r cyhoedd ac arbenigwyr o newidiadau yn lefel y môr yn Aber Afon Hafren. Ers hynny, rydw i wedi cael dwy swydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gydweithio â’r Athro Nick Pidgeon. Ar gyfer y CoastWEB, a ariannwyd gan NERC, defnyddiais gyfweliadau symudol manwl i gael gwell dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng cynefinoedd arfordirol ac iechyd a lles dynol. Cyn hyn, roeddwn yn cydweithredu â chydweithwyr yn UCSB Santa Barbara ar brosiect a ariannwyd gan yr NSF i ymchwilio i ganfyddiadau’r cyhoedd o ddatblygiad nwy siâl yn y DU a’r UDA. 

Meysydd Arbenigedd

  • Dulliau creadigol a newydd o ymgysylltu
  • Ymchwil ansoddol, dulliau amlfodd
  • Y cysylltiad rhwng natur a lles
  • Canfyddiadau’r cyhoedd ac arbenigwyr o berygl amgylcheddol
  • Ymatebion i’r newid yn yr hinsawdd a’r cynnydd yn lefel y môr

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae fy mhrofiad addysgu (Hydref 2010-i’r presennol) yn cynnwys: goruchwylio prosiectau ym mlwyddyn olaf y cwrs gradd, Ysgol Seicoleg Caerdydd; addysgu ‘Cyflwyniad i ddulliau ansoddol’ a helpu ar nifer o gyrsiau maes, Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd; tiwtor ffotograffiaeth (Merryn Thomas Photography).

Delwedd: helpu ar deithiau maes yn yr Ynysoedd Dedwydd

Prif Wobrau