Trosolwg
Dechreuais ar fy nhaith Bydwreigiaeth fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe yn 2003. Ers cymhwyso fel Bydwraig, rwyf wedi mwynhau gyrfa glinigol amrywiol yn y gymuned, yn y ganolfan eni ac yn yr ysbyty. Rwyf wedi ymarfer yn lleol yng Nghymru ac fel bydwraig gymunedol yn Bournemouth ac yng Ngholeg Imperial, Llundain. Yn ddiweddaraf rwyf wedi symud i fyd addysg yma ym Mhrifysgol Abertawe.