Dr Jesus Ojeda Ledo

Dr Jesus Ojeda Ledo

Athro Cyswllt, Chemical Engineering
209
Ail lawr
Adeilad Gogleddol Peirianneg
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Jesús Javier Ojeda yn Athro Cyswllt yn y Coleg Peirianneg. Mae ei brif ymchwil yn canolbwyntio ar fiofaeddu a biogyrydiad, a phwysigrwydd cyfansoddiad celloedd/arwyneb ac amodau amgylcheddol (fel pH, maetholion neu gryfder ïonig) ar ffurfiant bioffilmiau. Mae ei ymchwil yn cynnwys defnyddio offer potensiometrig a sbectrosgopig modern (fel ToF-SIMS, micro-FTIR, XPS, EXAFS) i ddisgrifio'r systemau hyn.

Hefyd, mae arbenigedd Dr Ojeda yn cynnwys ymddygiad micro/nanoronynnau mewn cyfryngau cymhleth, yn ogystal ag adlyniad micro-organebau i arwynebau’r gronynnau. Diolch i gyllid NERC a ddyfarnwyd iddo’n ddiweddar mae wedi datblygu prawf o gysyniad ar gyfer adnabod, mesur a meintioli microplastigau yn gyflym yn y broses trin gwastraff dŵr (HEFIN/K007521). Arloesodd yr ymchwil hon y defnydd o fethodolegau sbectrosgopig newydd ar gyfer monitro'r llygryddion hyn sy'n datblygu mewn ffordd awtomataidd, heb ragfarn a heb fawr o ymyrraeth ddynol.

Mae Dr Ojeda wedi sicrhau cyllid fel Prif Ymchwilydd a Chyd-Ymchwilydd gan sawl corff ariannu, gan gynnwys NERC, EPSRC, InnovateUK, Y Gymdeithas Frenhinol ac Ymddiriedolaeth Leverhulme. Mae hefyd wedi gweithredu fel cynghorydd arbenigol yn ETCBrunel, gyda mwy na 100 enghraifft o waith ymgynghori ar gyfer y sector preifat mewn nodweddion arwynebau, biogyrydiad, diraddio plastigau a methiant deunyddiau. Cyn dod i'r DU, bu Dr Ojeda yn gweithio mewn catalyddu, nodweddiadu arwynebau a rheoli ansawdd ar gyfer y diwydiant olew.

Mae Dr Ojeda yn aelod o'r pwyllgor Dulliau Cemegol a Biocemegol Ffisegol (EH/003/02) yn y Sefydliad Safon Prydeinig (BSI), ac arbenigwr a enwebwyd y DU i'r Sefydliad Safoni Rhyngwladol (ISO) ar gyfer y safon o ran dadansoddi microblastigau gan ddefnyddio sbectrosgopi dirgrynol.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud PhD?

Os oes gennych frwdfrydedd a diddordeb mawr mewn ymchwil PhD ar ryngweithio bacteria/arwynebau, cymhlethiaethau metel bacterol, catalysis, neu wyddoniaeth arwyneb gyda chymwysiadau mewn peirianneg biocemegol, cysylltwch â mi.

Meysydd Arbenigedd

  • Peirianneg Biocemegol
  • Gwyddoniaeth arwynebau a sbectrosgopeg
  • Datblygu dulliau newydd ar gyfer nodweddiadu microblastigau (e.e. delweddu micro-FTIR)
  • Bioffilmiau, biofaeddu a biogyrydiad