Dr Hazel Nichols

Dr Hazel Nichols

Athro Cyswllt, Biosciences

Cyfeiriad ebost

Swyddfa Academaidd - 202A
Ail lawr
Adeilad Wallace
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n defnyddio dull amlddisgyblaethol yn fy ngwaith ymchwil er mwyn ymchwilio i’r ffordd y mae cymdeithasau anifeiliaid yn esblygu, gan gyfuno data arsylwi a data genetig, ecolegol a biocemegol. Yn benodol, mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar bedair thema gydgysylltiol sy’n ymwneud ag esblygiad cymdeithasau anifeiliaid 1) ymchwilio i esblygiad cydweithredu 2) deall pwysigrwydd mewnfridio ac osgoi mewnfridio mewn rhywogaethau cydweithredol 3) ymchwilio i rôl cyfathrebu drwy arogl mewn penderfyniadau ar gydweithredu a bridio, a 4) deall strwythur genetig cymdeithasau mamolaidd. Rwy’n cyflawni hyn drwy Gymrodoriaethau gan y Leverhulme Trust a’r Alexander von Humboldt Foundation, gan gydweithredu â chydweithwyr ym Mhrifysgol Biefeld, Prifysgol Pretoria a Phrifysgol Caergrawnt.

Mae gennyf ddiddordeb hefyd mewn cymhwyso technegau genynnol i gadwraeth, er enghraifft, Rwy’n gweithio ar 1) amrywiaeth enynnol wrth ailgyflwyno rhywogaethau, 2) deall y defnydd o dirwedd a chanlyniadau amrywiaeth enynnol a 3) deall effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar gymdeithasau anifeiliaid.

Meysydd Arbenigedd

  • Swoleg
  • Ecoleg Ymddygiadol
  • Ecoleg Foleciwlaidd
  • Geneteg poblogaethau
  • Geneteg cadwraeth
  • Mamaliaid
  • Ymddygiad cymdeithasol