Professor Chris Allton

Yr Athro Chris Allton

Cadair Bersonol, Physics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295738

Cyfeiriad ebost

601
Chweched Llawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Wedi’i eni a’i addysgu yn Awstralia, mae gyrfa academaidd Chris wedi mynd ag e i weithio yn yr Alban, Lloegr, yr Eidal a Chymru. Cafodd radd B.Sc. o Brifysgol Queensland, Brisbane, a Ph.D. o’r Australian National University, Canberra. Dechreuodd ei yrfa ôl-raddedig gyda chyfnod byr yng Nghaeredin ac yna penodiadau yn Southampton a Rhufain. Mae ei ymchwil mewn ffiseg gronynnau ddamcaniaethol ac mae'n arbenigo mewn darogan priodweddau protonau, niwtronau a hadronau eraill gan ddefnyddio efelychiadau uwch-gyfrifiaduron.

Meysydd Arbenigedd

  • Ffiseg gronynnau ddamcaniaethol
  • Damcaniaeth medrydd dellt
  • Cyfrifiadureg perfformiad uchel
  • QCD ar dymheredd a dwysedd ansero
  • Ymgysylltu â’r cyhoedd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil
Ddatrys

Mae maes ymchwil Chris yn defnyddio techneg medrydd dellt i ‘ddatrys’ a gwneud rhagfynegiadau o QCD, y grym rhyngweithio cryf sy’n clymu cwarciau ynghyd i ffurfio protonau a gronynnau eraill llai cyfarwydd. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn QCD dan amodau eithafol fel y digwyddodd ychydig wedi’r Glec Fawr pan oedd y tymheredd yn driliynau Celsius. Ar y tymereddau anhygoel hyn, nid yw’r cwarciau bellach wedi’u rhwymo’n dynn ac mae’r gronynnau yn ‘toddi’, gan adael plasma o gwarciau sy’n rhyngweithio’n llac.

Prif Wobrau Cydweithrediadau