Dr Brigid Haines

Cyswllt Ymchwil Er Anrhydedd
Faculty of Humanities and Social Sciences

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Trosolwg

Mae Brigid Haines wedi cyhoeddi’n eang ar ysgrifennu yn yr Almaeneg gan fenywod ac ar ysgrifennu Almaeneg o ddwyrain Ewrop. Un ffocws penodol fu gwaith yr awdur ac enillydd gwobr Nobel, Herta Müller, sydd wedi ymweld â Chanolfan Diwylliant Almaeneg Gyfoes Prifysgol Abertawe ddwywaith ac sy’n Gymrawd Anrhydeddus y Brifysgol. Ar wahoddiad Dr Haines hefyd, cyflwynodd Frau Müller ddarlleniad yn y Llyfrgell Brydeinig yn 2017. Mae Dr Haines wedi goruchwylio cwblhad pedair gradd PhD, a bu’n Gadeirydd mudiad Women in German Studies rhwng 2015 a 2019.

Meysydd Arbenigedd

  • Y ‘gwyriad dwyreiniol’ yn niwylliant cyfoes yr Almaen
  • Herta Müller
  • Marwolaeth a marw mewn ffilm a ffuglen Ewropeaidd
  • Ysgrifennu yn yr Almaeneg gan fenywod

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

https://www.flickr.com/photos/swanseauniversity/7677058872/in/photostream/

Herta Müller a Brigid Haines ym Mhrifysgol Abertawe, 2012