Miss Anouska Mendzil

Miss Anouska Mendzil

Cynorthwy-ydd Ymchwil - Adfer Morwellt, Biosciences

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
036
Llawr Gwaelod
Adeilad Wallace
Campws Singleton

Trosolwg

Ymchwilydd sy’n aelod o grŵp Ymchwil SEACAMS2 a ariennir gan yr UE sy’n gweithio ym maes ymchwil a datblygu ochr yn ochr â phartneriaid mewn diwydiant yn y sectorau morol ac arfordirol, ac ynni adnewyddadwy morol yn benodol.

8 mlynedd a mwy yn gweithio fel rhan o brosiect ymchwil a datblygu ym Mhrifysgol Abertawe a phrofiad helaeth ar draws meysydd ymchwil morol ac arfordirol, peirianneg arfordirol a dŵr agored yn arbennig. Mae pwyslais y gwaith ymchwil ar effeithiau amgylcheddol dyfeisiau ynni adnewyddadwy morol (MRE) a’u heffeithiau posibl ar brosesau morol ac arfordirol a mamaliaid morol.

Mae prosiectau ymchwil penodol wedi cynnwys asesu ymyrraeth gan gerbydau awyr di-griw bach ar forloi llwyd (Halichoerus gypus), monitro morffodynameg rhynglanwol o amgylch Bae Abertawe, asesu dichonolrwydd casglu a dadansoddi DNA amgylcheddol (eDNA) morfilaidd gan ddefnyddio samplau chwythu a gwaith olrhain acwstig ar Sewin Bae Abertawe.

Arbenigeddau yn cynnwys; monitro acwstig morfilaidd ac arolygon a wneir mewn cychod (rhai statig a llusg), cerbydau awyr di-griw (UAVs) (gweithredydd dronau), GIS, delweddaeth mapio ac o’r awyr, metelau trwm sy’n gysylltiedig â gwaddodion, cludo a storio gwaddodion, prosesau a dynameg gorlifdir, geomorffoleg, rheoli peryglon llifogydd a pheryglon arfordirol, rheoli’r amgylchedd, a Fflworoleuedd Pelydr-X.


Aelod o Siarter Athena SWAN y Biowyddorau.

Meysydd Arbenigedd

  • Arolygon Cerbydau Awyr Di-griw/Drôn
  • GIS
  • Monitro acwstig statig morfilaidd
  • Arolygon llinell trawslun ac acwstig llusg
  • DNA a DNA amgylcheddol morfilaidd
  • Dynameg gwaddodion
  • Metelau trwm sy’n gysylltiedig â gwaddodion
  • Fflworoleuedd Pelydr-X

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae addysgu Anouska yn canolbwyntio ar wneud sgiliau proffesiynol yn rhan annatod o gyrsiau myfyrwyr gradd ac ôl-radd. Mae sgiliau penodol a addysgir yn cynnwys amrywiaethau mewn technegau arolygu a dulliau casglu data ar gyfer monitro mamaliaid morol yn cynnwys morloi a morfilod, adar arfordirol a physgod. Addysgir sgiliau drwy gyfres o ddarlithoedd, astudiaethau achos (ymchwil dronau), sesiynau ymarferol a chyrsiau maes.

Rhoddir pwyslais hefyd ar gyflwyno arferion rheoli proffesiynol a rhanddeiliaid gan gynnwys prosesau deddfwriaethol a llywodraethol megis Asesiadau o’r Effaith ar yr Amgylchedd ar gyfer ecosystemau amgylcheddol gwahanol.

Ymchwil Cydweithrediadau