An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Llun proffil o Alexia Bowler

Dr Alexia Bowler

Uwch-ddarlithydd
Applied Linguistics

Cyfeiriad ebost

219
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton

Trosolwg

Dechreuodd taith addysgu Alexia mewn ysgolion, ac ar raglenni gradd rhan-amser mewn addysg barhaus i oedolion, cyn iddi symud ymlaen i addysgu myfyrwyr israddedig amser llawn. Mae Alexia'n addysgu ar draws ystod eang o raglenni yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, gan ddod ag arbenigedd mewn llenyddiaeth, iaith a ffilm i nifer o raglenni gradd.

Mae diddordebau ymchwil Alexia mewn genre ffilmiau (yn arbennig ffuglen wyddonol, gothig/arswyd, film noir a chomedi ramantaidd), ffeministiaeth, cyfarwyddwyr benywaidd megis Jane Campion, addasiadau yn ogystal â chynrychioliadau o wrywdod a dawns ar ffilm. Mae ganddi ddiddordeb hefyd mewn ymagweddau dysgu drwy brofiad sy'n mynd â myfyrwyr y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth draddodiadol, gan gysylltu damcaniaeth ag ymarfer.

Mae Alexia'n gyd-olygydd ReFocus: The Films of Jane Campion (Edinburgh University Press, 2023) ac yn awdur sawl erthygl a phennod mewn llyfr ar ffilmiau Campion. Mae hefyd wedi cyhoeddi ar dueddiadau mewn comedi ramantaidd a sinema ffuglen wyddonol. Mae ei phrosiectau presennol yn archwilio cynrychioliadau o wrywdod mewn ffilmiau ac addysgeg drwy brofiad mewn addysg uwch.

Mae'n adolygydd cyfoedion rheolaidd i gyfnodolion a chyhoeddwyr, a bu hefyd yn feirniad allanol ar gyfer Gwobr Llyfrau'r FSA (2018) a Chystadleuaeth Traethawd Myfyrwyr yr FSA (2023). Mae'n goruchwylio traethodau hir israddedig mewn llenyddiaeth, ffilm a'r Iaith Saesneg. Bu'n ail oruchwyliwr ac yn arholwr ymchwil MRes a PhD.

Yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, mae cyfrifoldebau Alexia'n cynnwys mentora cydweithwyr iau; ac mae'n aelod o gynllun mentoriaeth Aurora Advance HE. Mae hi hefyd yn mentora myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ar leoliadau addysgu yn rheolaidd, gan eu cefnogi gyda'u ceisiadau AFHEA.

Mae Alexia yn uwch-diwtor personol yn yr Ysgol, sy'n arwain ar hyrwyddo, cefnogi a gwerthuso Fframwaith Tiwtoriaid Personol y brifysgol trwy arwain staff, monitro a gwella ymgysylltiad myfyrwyr â thiwtora. Mae'n cefnogi materion tiwtora academaidd cymhleth, gan gynrychioli'r maes allweddol hwn yng nghyfarfodydd yr Ysgol.

 Mae hefyd yn diwtor derbyn myfyrwyr, ac yn arwain mentrau cyflogadwyedd Ieithyddiaeth Gymhwysol, gan sefydlu'r Panel Diwydiant Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol, sy'n dod ag aelodau o fyd diwydiant ac addysg uwch ynghyd i gynghori ar anghenion cyflogwyr a meithrin cysylltiadau rhwng y byd academaidd a'r gweithle.

Meysydd Arbenigedd

  • Genre ffilm (Ffuglen wyddonol Gothig/arswyd, film noir a chomedi ramantaidd)
  • Ffeministiaeth(au)
  • Cyfarwyddwyr benywaidd (yn enwedig Jane Campion)
  • Ymaddasiad
  • Gwrywdod ar ffilm
  • Dawns ar ffilm
  • Addysgeg drwy brofiad (yn enwedig y dérive)

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Iaith Saesneg: Hanes yr Iaith Saesneg; Hunaniaeth, pŵer ac iaith mewn polisi a chynllunio; Gweithio gydag ymarferwyr (ymarfer cymhwysol); Arddulleg; Dadansoddi disgwrs.

Ffilm: Hollywood; Genre ffilm (Ffuglen wyddonol Gothig/arswyd, film noir a chomedi ramantaidd); ffeministiaeth(au); Cyfarwyddwyr benywaidd (yn enwedig Jane Campion), ymaddasiad, gwrywdod ar ffilm, dawns ar ffilm.

 

Ymchwil Prif Wobrau