Dyddiad cau: 2 Rhagfyr 2026

Gwybodaeth Allweddol

Ar agor i: Ymgeiswyr o'r DU a Rhyngwladol

Darparwyr y cyllid:  BBSRC SWBio

Y meysydd pwnc: Ymddygiad Anifeiliaid

Dyddiadau dechrau'r prosiect: Hydref 2027

**(Gweler y nodyn isod ynghylch dyddiadau dechrau hwyrach posibl).

** Mewn amgylchiadau eithriadol, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Brifysgol a/neu'r corff cyllido perthnasol, gellir caniatáu gohirio cynnig tan y cyfnod cofrestru nesaf sydd ar gael. Fel arfer, ni fydd gohiriad o'r fath yn fwy na thri mis calendr o'r dyddiad dechrau a bennwyd yn wreiddiol. Sylwer, dim ond un cais i ohirio gaiff ei ystyried ac ni ellir gwarantu y caiff ei gymeradwyo.

Goruchwylwyr: 

  • Yr Athro Andrew King (Prifysgol Abertawe)
  • Dr Neeltje Boogert (Prifysgol Caerwysg)
  • Dr Ines Fuertbauer (Prifysgol Abertawe)
  • Yr Athro Alex Thornton (Prifysgol Caerwysg)

Dull astudio: Amser llawn neu Rhan Amser

Man Astudio:

  •  Prifysgol Abertawe, (Campws Singleton)
  •  Prifysgol Caerwysg (Campws Penryn)

Disgrifiad o'r Prosiect: 

Mae rhai anifeiliaid gwyllt yn byw ac yn atgenhedlu mewn amgylcheddau trefol, lle maent yn dod ar draws adnoddau a heriau newydd. Ac eto, ychydig iawn rydyn ni'n ei wybod am gostau a manteision byw mewn trefi, neu sut mae anifeiliaid yn addasu eu hymddygiad a'u ffisioleg wrth gynnal iechyd, lles a llwyddiant atgenhedlu. Gall llwyddiant ymddangosiadol adlewyrchu digonedd o fwyd a chyfleoedd nythu, ond gallai guddio costau maethol, ffisiolegol neu atgenhedlol. Gall deall pam mae unigolion yn amrywio yn eu hymatebion ddatgelu'r mecanweithiau biolegol sy'n galluogi anifeiliaid i addasu i newid amgylcheddol cyflym.

Mae gwylanod penwaig trefol (Larus argentatus) yn cynnig system eithriadol ar gyfer mynd i'r afael â'r cwestiynau hyn. Mae gwylanod unigol yn gwneud dewisiadau gwahanol ynglŷn â ble i nythu, beth i'w fwyta, a sut i fagu eu hepil. Mae rhai yn nythu ar lefel y ddaear, eraill ar doeau isel neu adeiladau uchel, ac mae eu deiet yn amrywio o ysglyfaeth forol i fwydydd sy'n dod o ffynonellau dynol.

Byddwch yn astudio tua 100 o barau o wylanod sy'n bridio ar gampws Prifysgol Abertawe, gan gysylltu'r dewis o safle nythu ac ecoleg maeth ag ymddygiad rhieni, ffisioleg, cyflwr affeithiol a llwyddiant atgenhedlu. Ar draws tymhorau bridio, byddwch yn mapio safleoedd nythu sydd ar gael a rhai sydd wedi’u meddiannu ac yn dilyn adar a nythod adnabyddadwy gan ddefnyddio arsylwadau, camerâu sefydlog, cofnodion modrwyo ac arolygon drôn. Bydd monitro yn mesur penderfyniadau a chanlyniadau atgenhedlu, gan gynnwys dodwy wyau, gofal rhieni, deor, twf cywion, goroesi a gadael y nyth. I rieni ffocal, bydd olrhain GPS  a mesurau dietegol yn asesu dibyniaeth ar adnoddau trefol, daearol a morol, tra bydd arbrofion ymddygiadol a samplu ffisiolegol (glwcocorticoidau carthion a phlu) yn asesu hyblygrwydd ymddygiadol, cyflwr affeithiol, straen a buddsoddiad atgenhedlol. Bydd y data hyn yn datgelu sut mae penderfyniadau ynghylch safleoedd nythu a chwilota am fwyd yn gysylltiedig â ffenoteip rhieni a llwyddiant cywion, a yw gwahanol ddangosyddion iechyd a lles yn cyd-fynd, ac a yw bridio trefol sy’n ymddangos yn llwyddiannus yn cuddio costau i rieni neu epil.

Byddwch yn cael hyfforddiant rhyngddisgyblaethol mewn bioleg maes, arbrofion ymddygiadol, cofnodi data biolegol, ffisioleg, dadansoddi gofodol a modelu ystadegol. Mae'r prosiect yn cyfuno arbenigedd Abertawe mewn ecoleg ymddygiadol ac endocrinoleg (Yr Athro Andrew King, Dr Ines Fürtbauer) ag arbenigedd Caerwysg mewn gwybyddiaeth, plastigrwydd ymddygiadol ac astudiaethau arbrofol o wylanod gwyllt (Dr ​​Neeltje Boogert,  Yr Athro Alex Thornton), ynghyd â chymorth gan staff bioamrywiaeth Abertawe a rhwydweithiau modrwyo sefydledig.

Cymhwyster

Nodyn ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol ac Ewropeaidd:

Gellir dod o hyd i fanylion ynghylch sut mae eich cymhwyster yn cymharu â’r gofynion mynediad academaidd sydd wedi'u cyhoeddi ar ein tudalen Gofynion Mynediad Gwledydd Penodol.

Os oes gennych gwestiynau o ran eich cymhwysedd academaidd neu ffïoedd yn seiliedig ar yr uchod, e-bostiwch pgrscholarships@swansea.ac.uk gyda'r ddolen i'r ysgoloriaethau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.

Sylwer bod y rhaglen yn gofyn i rai ymgeiswyr feddu ar gymeradwyaeth ATAS, mae mwy o fanylion am gymwysterau'r cynllun ATAS ar wefan Llywodraeth y DU.

NID yw'n ofynnol cael cymeradwyaeth ATAS fel rhan o'r broses ymgeisio am ysgoloriaeth. Rhoddir manylion i ddeiliaid dyfarniad (fel y bo'n briodol) ynghylch sut i gyflwyno cais am gymeradwyaeth ATAS ar yr un pryd â chael cynnig ysgoloriaeth am gwrs.

Cyllid

Mae'r ysgoloriaeth hon yn talu'r holl ffïoedd dysgu gan gynnwys ariantal blynyddol ar raddfa UKRI

(£20,780 ar gyfer 2025/26) - Gorffennaf 2026

(£21,805 for 2026/27) - Hydref 2026 ymlaen

Bydd treuliau ymchwil ychwanegol gwerth hyd at £4,000 y flwyddyn ar gael hefyd.

Sut i Wneud Cais

I wneud cais, cwblhewch y ffurflen gais gyfan, gan ddilyn y ddolen hon:

Rhaid cyflwyno ceisiadau trwy Brifysgol Bryste: https://www.swbio.ac.uk/agriculture-environmental-projects/

Croesewir ymholiadau anffurfiol; cysylltwch â:

ENW: Yr Athro Andrew King

E-BOST: a.j.king@swansea.ac.uk