Ysgoloriaeth Nawal Al Sharif

Sefydlwyd Ysgoloriaeth Nawal Al Sharif (NAS) yn 2003, ac mae'n anrhydeddu gwaddol Nawal Al Sharif, ymarferydd datblygiad cymdeithasol arloesol yng Ngwlad yr Iorddonen, ac yn adlewyrchu ymrwymiad hirdymor Prifysgol Abertawe i gyfleoedd addysgol a datblygiad rhyngwladol.

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth o ganlyniad i bartneriaeth rhwng Canolfan Astudiaethau Datblygu Prifysgol Abertawe ac Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol y DU, yn dilyn cwblhau Prosiect Adeiladu Capasiti Datblygiad Cymdeithasol Gwlad yr Iorddonen yn llwyddiannus. Crëwyd gwaddol i gefnogi myfyrwyr dawnus o Wlad yr Iorddonen a Phalesteina i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig yn Abertawe.

Pan gaewyd y Ganolfan Astudiaethau Datblygu yn 2010, trosglwyddwyd yr ysgoloriaeth i Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe, gan gryfhau ei chysylltiad ag agenda ymgysylltu byd-eang a datblygiad y Brifysgol. Wedi hynny, mae'r Brifysgol wedi dod yn rhan o raglen Cymorth Addysg Uwch i Balestiniaid (HESPAL) y British Council.

Ar ôl cyfnod o fod yn segur o ganlyniad i'r dirywiad ariannol byd-eang, mae’r gronfa ysgoloriaeth wedi'i hadfer, sy’n golygu bod modd ail-lansio’r rhaglen. O 2027 i 2030, bydd Prifysgol Abertawe yn cynnig hyd at bump ysgoloriaeth gradd Meistr wedi'u hariannu'n llawn bob blwyddyn yn yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol, gan greu cyfleoedd newydd i fyfyrwyr rhagorol o Balesteina i ddatblygu eu sgiliau, cael hwb i’w gyrfaoedd a chyfrannu at ddyfodol eu cymunedau.

myfyrwyr
myfyrwyr

Yr Ysgoloriaeth

Nifer y dyfarniadau a gaiff eu cyflwyno bob blwyddyn dan y cynllun hwn yw: un (1) MA, gyda'r ddealltwriaeth efallai na fydd cyfanswm y dyfarniadau'n cael eu cyflwyno bob blwyddyn.

Bydd dyfarniadau'n cwmpasu uchafswm o ddeuddeg (12) mis ar gyfer gradd Meistr.

Bydd y dyfarniadau ar gael i astudio ar raglenni yn yr Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn unig ar gyfer cynllun HESPAL, yn unol â blaenoriaethau’r prifysgolion ym Mhalesteina a'u hysgolheigion a enwebwyd.

Y Broses Ymgeisio

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais HESPAL mewn cydweithrediad â'u prifysgol gartref. Dylai ymgeiswyr sy'n bwriadu ymgeisio am Ysgoloriaeth Nawal Al Sharif gwblhau ffurflen gais Prifysgol Abertawe ar gyfer astudiaethau gradd Meistr, a darparu'r ddogfennaeth ychwanegol angenrheidiol: gweler https://www.swansea.ac.uk/international-students/international-student-courses/how-to-apply/

Bydd Ysgoloriaeth Nawal Al Sharif yn:

  • Talu'r ffïoedd dysgu llawn.
  • Cyfrannu hanner yr ariantal byw misol a bydd y British Council yn talu'r hanner arall.
  • Ni fydd yr Ysgoloriaeth yn talu'r costau ar gyfer aelodau teulu a allai ddod gyda'r myfyriwr.
Sut i wneud cais