Stick people holding hands as a group, one person with autism

Mewn ymchwil sy’n torri tir newydd a gynhaliwyd gan Dr Joe Whittaker, Uwch-ddarlithydd mewn Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, mewn cydweithrediad â Dr Andrew Thomas, Uwch-ddarlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe a William Costello ym Mhrifysgol Texas, Austin, mae cyswllt wedi’i ddarganfod rhwng awtistiaeth ac ystad ddi-briod  anwirfoddol, sy’n cael ei adnabod fel “inceldom.”

Mae’r astudiaeth, sydd wedi denu sylw eang iawn, yn taro golwg ar groestoriad o gyflyrau niwroddatblygiadol a ffenomenau cymdeithasol, sy’n cynnig dealltwriaeth hollbwysig i brofiadau unigolion sy’n uniaethu fel “incels.” Pan roddwyd holiadur sgrinio awtistiaeth i’r cyfranogwyr yn eu harolwg, roedd tua 30% wedi sgorio’n ddigon uwch ar gyfer atgyfeiriad meddygol. Byddai hyn yn dangos cyfradd sy’n rhagori ar gyfraddau sylfaen cymdeithasol.

Wrth gyfeirio at erthygl ddiweddar a gyhoeddwyd yn y Telegraph, mae Dr Whittaker yn tanlinellu pwysigrwydd deall y rhyngweithio cymhleth rhwng iechyd meddwl, deinameg gymdeithasol, a pherthnasoedd rhamantaidd.

Nododd Dr Whittaker bwysigrwydd y canfyddiadau, gan nodi:

“Nid awtistiaeth yw achos agweddau atgas tuag at ferched, nac yn esgus am ymddygiadau negyddol. Yn hytrach, mae datblygiad credoau a gweithrediadau problematig yn gymhleth ac yn aml-achosol. Wedi dweud hynny, mewn rhai amgylchiadau, gall iechyd meddwl a niwroamrywiaeth chwarae rôl. Felly, mae’n hollbwysig bod gan y rheiny sy’n ymgymryd ag ymyriadau ar incels ddealltwriaeth ddofn o iechyd meddwl a niwroamrywiaeth.”

Defnyddiodd yr astudiaeth ymagwedd amlddisgyblaethol, gan gyfuno gwybodaeth o droseddeg a seicoleg i archwilio’r ffactorau gwaelodol sy’n cyfrannu at ystad ddi-briod anwirfoddol. Cafodd yr ymchwilwyr bersbectifau gwerthfawr gan unigolion yn y gymuned incel, a  ddarparodd brofiadau personol, amhrisiadwy sy’n cyfoethogi canfyddiadau’r ymchwil.

Mae disgwyl i ganfyddiadau ymchwil Dr Whittaker ysgogi trafodaethau pellach yn y cymunedau academaidd a chlinigol, gan feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r heriau mae unigolion ar y sbectrwm awtistiaeth a’r rheiny sydd mewn ystad ddi-briod anwirfoddol yn eu wynebu.

Wrth i Brifysgol Abertawe barhau i hyrwyddo ymchwil ryngddisgyblaethol sy’n mynd i’r afael â heriau yn y byd go iawn, mae gwaith Dr Whittaker yn dyst i ymrwymiad y Brifysgol o ran gwneud cyfraniadau ystyrlon i’r gymdeithas.

Am ragor o wybodaeth am ymchwil Dr Joe Whittaker a mentrau eraill ym Mhrifysgol Abertawe, cysylltwch â j.j.whittaker@abertawe.ac.uk.

Rhannu'r stori