Mae'n bleser gan Brifysgol Abertawe gyhoeddi bod Dr Emily Lowthian, darlithydd mewn Astudiaethau Addysg a Phlentyndod, wedi’i dewis i ymuno ag UK Young Academy. Mae'r rhwydwaith hwn yn cynnwys ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfaoedd sy'n ymroddedig i fynd i'r afael â materion lleol a byd-eang, gan eirioli dros newid ystyrlon.

Mae Dr Lowthian yn ymuno â grŵp dethol o 32 arweinydd sy'n dod i'r amlwg o wahanol feysydd ledled y DU, gan arddangos arbenigedd mewn meysydd sy'n amrywio o bolisi i beirianneg, archaeoleg, addysg a'r diwydiannau creadigol. Mae pob aelod wedi dangos cyfraniadau nodedig at ei faes penodol.

Fel aelod o UK Young Academy, bydd Dr Lowthian yn cymryd rhan wrth gyfnewid syniadau mewn modd bywiog, rhannu arbenigedd a chymryd rhan weithredol mewn trafodaethau polisi ar lefelau lleol a byd-eang. Gyda'i gilydd, eu nod yw mynd i'r afael â heriau dybryd mewn meysydd sydd o bwys iddynt hwy a'r gymdeithas yn gyffredinol.

Meddai Andrew Townsend, Athro Addysg a Phennaeth yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Abertawe, "Mae penodiad Dr Lowthian i UK Young Academy yn haeddiannol iawn. Mae hi wedi cyflawni llawer iawn yn ystod gyrfa gymharol fyr, gan wneud cyfraniadau sylweddol at ymchwil i ganlyniadau addysgol a lles pobl ifanc. Mae Emily yn ymchwilydd rhagorol heb os, ac mae hi hefyd yn uchel ei pharch yn yr adran, ac yn ehangach ar draws y Brifysgol, gan ei bod yn athrawes ac yn gydweithiwr gwych."

Wrth siarad ar ran grŵp gweithredol UK Young Academy, meddai Alistair McConnel, athro cynorthwyol mewn cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Heriot-Watt: "Rydym yn falch iawn o groesawu ein haelodau newydd i UK Young Academy. Mae'n amser cyffrous i ymuno â ni. Byddant yn gallu helpu i ddatblygu uchelgeisiau UK Young Academy ar draws meysydd y maent yn angerddol amdanynt, er enghraifft colli bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd neu anghydraddoldeb cymdeithasol.

"Rydym newydd ddechrau cynllunio ein prosiectau mawr ar gyfer y flwyddyn i ddod, felly bydd yr aelodau newydd yn gallu achub ar y blaen o'r cychwyn cyntaf. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â nhw, cael fy ysbrydoli gan hamrywiaeth eu syniadau, a gweithio ochr yn ochr â nhw i greu newid cadarnhaol er budd pawb."

Mae rhaglenni a mentrau gwaith dan arweiniad aelodau eisoes ar y gweill, gyda'r nod o fynd i'r afael â blaenoriaethau strategol UK Young Academy a bennwyd yn ei blwyddyn gyntaf. Bydd y cyntaf o brosiectau mawr UK Young Academy, a fydd yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni, yn rhaglen i gefnogi ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol sydd mewn perygl, yn y DU ac yn fyd-eang.

Dechreuodd yr aelodau newydd yn eu rolau ar 19 Mawrth 2024 am gyfnod aelodaeth o bum mlynedd.

Am ragor o wybodaeth am UK Young Academy ac i ofyn am gyfweliadau gyda llefarwyr, cysylltwch â swyddfa'r wasg y Gymdeithas Frenhinol:

Amrita Pal
Swyddog y Wasg
02074512534
amrita.pal@royalsociety.org

Rhannu'r stori