YN CYFLWYNO REBECCA

Cyn dod i Brifysgol Abertawe, gwnes i sefyll fy arholiadau Safon Uwch mewn mathemateg, seicoleg a bioleg ym mharth dysgu Glynebwy. Yna es i ymlaen i gwblhau fy ngradd israddedig BSc mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Abertawe.

Penderfynais astudio'r radd MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth ar ôl canolbwyntio ar astudiaethau terfysgaeth ar gyfer fy nhraethawd estynedig israddedig, ac roedd hynny'n hynod ddiddorol. Rwy'n meddwl bod gan y rhyngrwyd ran gynyddol i'w chwarae mewn terfysgaeth ac mae Abertawe'n un o'r ychydig Brifysgolion i gynnig cwrs fel hwn. Roeddwn yn hapus i gael aros yn y Brifysgol am flwyddyn arall i ymgymryd â hyn. 

Y peth gorau am y rhaglen oedd yr adnoddau a'r wybodaeth a roddodd y darlithwyr i ni. Mae'r modiwlau'n cynnwys llawer o bynciau diddorol a chyfredol ac roeddem yn gallu eu hastudio mewn manylder. Roedd y darlithwyr bob amser yn hapus i ymhelaethu ar rannau neu esbonio rhywbeth i chi.

A photo of Rebecca on a boat

Roedd y cwrs yn hyblyg iawn hefyd o ran pryd y gallwn gynnal fy ngwaith ymchwil a dysgu'r deunyddiau. Roedd hyn yn golygu bod gennyf amser i gymdeithasu a chymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'r rhaglen, gan gynnwys parhau i fod yn ysgrifennydd clwb hoci'r Brifysgol.

Fy nghyngor i rywun sy'n ystyried y rhaglen hon fyddai gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried eich opsiynau a phenderfynu ar ba radd meistr fyddai'n eich helpu orau i gyflawni eich nodau ar ôl y brifysgol. I mi, hoffwn weithio ym  myd gwrthderfysgaeth un dydd a defnyddio'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ar y rhaglen hon ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. Os ydych yn ansicr ynghylch yr hyn i'w wneud ar ôl y Brifysgol, byddwn i'n argymell dewis rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, roedd y gwaith yn llawer haws oherwydd i mi fwynhau'r dysgu a'r pynciau.

Unwaith byddwch yn dechrau, peidiwch â gofidio llawer am y naid i lefel Meistr, ond darllenwch yr holl adborth oherwydd gwnaeth hynny fy helpu i gyflawni graddau uwch yn yr ail semester ac yn fy nhraethawd estynedig.

Roedd y staff bob amser yno i helpu. Gwnaethant addasu'n dda i'r materion presennol o ran Covid-19 ac roeddent bob amser yn hapus i gael cyfarfod ar Zoom os oedd rhywbeth yn ein poeni neu os oedd angen cymorth gyda rhywbeth. Roeddent yn rhoi gwybod i ni am bethau drwy gydol y flwyddyn ac roeddent yn gymwynasgar iawn pan oeddem yn gweithio ar ein traethodau estynedig.

Ers graddio, rwyf wedi bod yn gweithio mewn safle profi Covid-19. Rwyf wedi cyflwyno cais a derbyn cynnig ar gyfer cynllun graddedigion Police Now mewn plismona cymdogaethau sydd i fod i ddechrau ym mis Awst. Rwy'n gobeithio ymuno â'r Heddlu i fod yn swyddog plismona cymdogaethau unwaith bydd yr holl wiriadau cyn-gyflogaeth wedi'u cwblhau. Ar hyn o bryd, rwy'n astudio eu cwrs ar-lein ac yn paratoi er mwyn dechrau. Mae hyn yn cynnwys dysgu craidd, deddfwriaeth plismona a gwybodaeth am y gweithle a roddwyd i ni gan y rhaglen Police Now. Byddaf yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â materion cymunedol a dod yn wyneb yr ymddiriedir ynddo yn yr ardal. 

Byddwn yn dweud bod fy rhaglenni yn y brifysgol wedi dylanwadu'n bendant ar fy newis gyrfa ac wedi rhoi'r hyder/gwybodaeth i mi gyflwyno cais a derbyn cynnig.