Campysau ac Adeiladau Hygyrch

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymrwymedig i greu campysau sy'n hygyrch, yn gynhwysol ac yn groesawgar i bawb.

Rydym am i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr allu bod yn hyderus wrth gael mynediad at ein hadeiladau, ein cyfleusterau a'n gwasanaethau ac wrth eu defnyddio. Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, rydym yn adolygu ac yn gwella ein campysau'n barhaus, gan helpu i ddileu rhwystrau a gwella hygyrchedd ar draws ein hystad. Mae hyn yn cynnwys ystyried hygyrchedd fel rhan o waith datblygu a chynnal a chadw ein campysau, a phrosiectau adnewyddu.

Canllawiau AccessAble

I helpu ymwelwyr i gynllunio eu taith ac i ddod o hyd i'w ffordd o gwmpas ein campysau, rydym wedi cydweithio ag AccessAble i ddarparu canllawiau hygyrchedd manwl i amrywiaeth eang o adeiladau, cyfleusterau a gwasanaethau. Mae'r canllawiau'n cynnwys gwybodaeth ymarferol am:

  • Feysydd parcio a mannau gollwng teithwyr hygyrch
  • Mynediad a llwybrau heb risiau
  • Mynedfeydd adeiladau a derbynfeydd
  • Lifftiau a chyfleusterau hygyrch
  • Mannau addysgu, astudio, chwaraeon a chymdeithasu
  • Nodweddion a gwasanaethau hygyrchedd eraill

Gweld ein Canllawiau AbleAccess

Gweld ein Canllawiau AbleAcces

Ein Hymrwymiad Parhaus

Mae gwella hygyrchedd yn flaenoriaeth barhaus a byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein campysau i greu amgylchedd lle gall pawb ffynnu.

Rydym yn croesawu adborth ar sut gallwn wella hygyrchedd ymhellach ar draws ein hystad. Os oes gennych sylwadau neu awgrymiadau, gallwch e-bostio campusdevelopment@abertawe.ac.uk.