Nod y prosiect hwn oedd archwilio'r naws cyhoeddus ynglŷn ag achlysur blwyddyn ers bomiau Manceinion 2017. Astudiodd y tîm weithgareddau cyhoeddus mewn perthynas â'r achlysur ar 22 Mai 2019, gan gynnwys "With One Voice", digwyddiad o gydganu cyhoeddus yn Sgwâr Albert yn cynnwys côr o oroeswyr.  Yna, dilynasant sut oedd y digwyddiadau hyn yn cael eu dogfennu, cynrychioli a'u perfformio ar Twitter drwy arsylwi a chasglu cynnwys gan ddefnyddwyr o'r hashnod #ManchesterTogether a sawl un arall.

Roedd elfennau digidol yn amrywio o'r sgriniau mawrion yn ffrydio'r gwasanaeth yng Nghadeirlan Manceinion, yn ogystal ag ymatebion i'r gwasanaeth ar Twitter. Yn ogystal, cafwyd 'mentrau ar lawr gwlad', megis y digwyddiadau peintio cerrig mân i goffáu. Mae'r ffaith bod digwyddiadau coffaol, cyhoeddus bellach wedi'u creu drwy bontio elfennau 'mwy neu lai digidol' yn un mewnwelediad allweddol o'r prosiect. Diddordeb canolog arall ar gyfer y tîm ymchwil hwn yw sut mae ffurfiau penodol iawn o gymuned ac agosatrwydd yn cael eu ffurfio wrth ymateb i ymosodiadau terfysgol yn Ewrop a sut mae cysyniad digidol yn cyflwyno ymateb ffisegol.

Prosiectau'r dyfodol: Defnyddio # fel ymateb i ddwyn pobl ynghyd, e.e. ffoaduriaid.

Shanti yn ymweld â Madrid i hyrwyddo cyfleoedd effaith ac ymgysylltiad. Cyfarfod â chyngor Manceinion a bellach mae corff o waith i i'w ddangos gyda'r gobaith o drefnu arddangosfa barhaol o 'wrthrychau i goffáu'.

Dolenni:

https://theconversation.com/digital-commemoration-a-new-way-to-remember-victims-of-terrorism-95626

https://www.swansea.ac.uk/science/news-centre/digital-technologies-and-nationalism/