Mae'r Prosiect Batsapp yn bodlediad dogfennol sy'n croniclo profiad dynol o wybodaeth anghywir ar-lein yn ystod argyfwng Nipah 2018. Tra bod gwybodaeth anghywir ar-lein wedi treiddio ein bywydau bellach, mae'r ymateb Nipah yn stori o sut ddaeth yr unigolion, cymunedau a sefydliadau a gafodd eu heffeithio fwyaf gan wybodaeth anghywir at ei gilydd i'w goresgyn. Mae'r gyfres hon wedi'i gosod yn nhalaith odidog Kerala yn India, lle cafodd y sefydliad iechyd y cyhoedd yno ganmoliaeth fyd-eang am ei waith yn rheoli'r argyfwng Nipah angheuol. Rydym hefyd yn sgwrsio ag arbenigwyr rhyngwladol ynglŷn â'r ffyrdd y mae ein meddwl yn prosesu gwybodaeth anghywir a beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer cyfathrebu risgiau yn ystod argyfyngau iechyd.

Caiff y gyfres podlediad dogfennol hon, sydd newydd ei chyhoeddi, ei chefnogi gan Gronfa Cherish-DE Seedcorn.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r prosiect, ewch i https://www.misinfodemic.org/ neu cysylltwch â'r Prif Ymchwilydd, Dr. Santosh Vijaykumar santosh.vijaykumar@northumbria.ac.uk Proffil Twitter: @percer

Gallwch wrando ar y podlediad yma

iTunes: https://tinyurl.com/ycufrtye

Spotify: https://tinyurl.com/ycd2427o

Soundcloud: https://tinyurl.com/ya9en4pb