Meddwl yn Arloesol!

Sgwrs wedi'i chyflwyno ar 2 Rhagfyr 2020

Bywgraffiad y Siaradwr: Mae gan Scott Jenson dros 25 mlynedd o brofiad o ddylunio rhyngwynebau a chynllunio strategol. Bu'n gweithio yn Apple ar System 7, Newton a chanllawiau rhyngwyneb defnyddwyr Apple. Bu'n gyfarwyddwr Profiad Defnyddwyr Symbian, yn Is-lywydd Dylunio Cynnyrch ar gyfer Cognima, bu'n rheoli profiad defnyddwyr symudol ar gyfer Google a bu'n Gyfarwyddwr Creadigol Frog Design yn San Francisco. Dychwelodd Scott i Google ym mis Tachwedd 2013 i arwain prosiect y We Ffisegol. Ar hyn o bryd, mae'n gweithio ar gysyniadau profiad defnyddwyr Android y dyfodol. Fel rhywun sydd â phrofiad helaeth (a’r creithiau i brofi hynny!) o'r diwydiant meddalwedd, mae Scott wedi lansio taenlen defnyddwyr, bu’n ymwneud â rhyddhau dwy system weithredu Mac, pum cylch cynnyrch Newton, pedwar diwygiad o wefannau masnachol, mae wedi dylunio dau ryngwyneb ffonau symudol, wedi melltithio nifer di-rif o borwyr symudol ac mae ganddo dros 20 o batentau.