Abstract image

Deallusrwydd Artiffisial sy’n Canolbwyntio ar Bobl: Dibynadwy a Diogel

Dydd Mercher 16 Chwefror 2022

Cofrestrwch Nawr

Crynodeb: Mae gwyddor gyfunol newydd yn datblygu sy’n cyfuno technolegau Deallusrwydd Artiffisial (AI) gydag agweddau o’r Rhyngweithio rhwng Pobl a Chyfrifiaduron (HCI) i greu Deallusrwydd Artiffisial sy’n Canolbwyntio ar Bobl (HCAI). Mae’r rhai sy’n hyrwyddo’r cyfuniad newydd hwn yn ceisio helaethu, ategu a gwella galluoedd dynol, er mwyn grymuso pobl, datblygu eu hunaneffeithiolrwydd, cefnogi creadigrwydd, cydnabod cyfrifoldeb, a hyrwyddo cysylltiadau cymdeithasol.

Mae ymchwilwyr, datblygwyr, arweinwyr busnes, llunwyr polisi ac eraill yn ehangu cwmpas Deallusrwydd Artiffisial (AI) sy’n seiliedig ar dechnoleg i gynnwys ffyrdd o feddwl sy’n gysylltiedig â Deallusrwydd Artiffisial sy’n Canolbwyntio ar Bobl (HCAI). Mae ehangu fel hyn drwy symud o safbwynt sy’n seiliedig ar algorithm i gynnwys safbwynt sy’n canolbwyntio ar bobl yn gallu dylanwadu ar ddyfodol technoleg er mwyn gwasanaethu anghenion pobl yn well. Mae addysgwyr, dylunwyr, peirianwyr meddalwedd, rheolwyr cynhyrchion, gwerthuswyr, a swyddogion asiantaethau llywodraeth yn gallu datblygu ar sail technolegau a ysgogir gan AI a dylunio cynhyrchion a gwasanaethau sy’n gwneud bywyd yn well i’r defnyddwyr. Bydd y cynhyrchion a gwasanaethau hyn sy’n canolbwyntio ar bobl yn galluogi pobl i ofalu am ei gilydd yn well, i ddatblygu cymunedau cynaliadwy, ac i adfer yr amgylchedd. Mae hyrwyddwyr brwdfrydig HCAI yn ymrwymedig i hybu gwerthoedd, hawliau, cyfiawnder ac urddas pobl, drwy ddatblygu systemau dibynadwy a diogel y gellir ymddiried ynddynt.

Bydd y sgwrs hon yn cynnwys enghreifftiau, yn cyfeirio at waith pellach ac yn rhoi amser i drafod cwestiynau. Daw’r syniadau hyn o lyfr newydd Ben Shneiderman (Gwasg Prifysgol Rhydychen, Ionawr 2022). Rhagor o wybodaeth yn: https://hcil.umd.edu/human-centered-ai

 

Cofiant: Mae BEN SHNEIDERMAN (http://www.cs.umd.edu/~ben)yn Athro Prifysgol Emeritws Nodedig yn yr Adran Gyfrifiadureg, yn Gyfarwyddwr a Sylfaenydd (1983-2000) y Labordy Rhyngweithio Pobl-Cyfrifiaduron (http://hcil.umd.edu), ac yn aelod o Sefydliad UM ar gyfer Astudiaethau Cyfrifiadureg Uwch (UMIACS) ym Mhrifysgol Maryland. Mae’n Gymrawd yn AAAS, ACM, IEEE, NAI, a’r Academi Delweddu ac yn Aelod o Academi Peirianneg Genedlaethol yr Unol Daleithiau. Mae wedi derbyn chwe doethuriaeth er anrhydedd yn gydnabyddiaeth o’i gyfraniadau arloesol at ryngweithio pobl-cyfrifiaduron a delweddu gwybodaeth. Ymhlith y cyfraniadau ganddo a ddefnyddir fwyaf helaeth, mae’r dolenni gwe clicadwy sydd wedi’u hamlygu, bysellfyrddau sgriniau cyffwrdd hynod fanwl, a thagio ar gyfer lluniau. Mae datblygiadau arloesol Shneiderman ym maes delweddu gwybodaeth yn cynnwys llithryddion ymholi deinamig ar gyfer Spotfire, datblygu mapiau coeden ar gyfer gweld data hierarchaidd, delweddu newydd ar gyfer rhwydweithiau yn NodeXL, a dadansoddi dilyniant digwyddiadau ar gyfer cofnodion iechyd electronig.

Ben ydy awdur arweiniol Designing the User Interface: Strategies for Effective Human-Computer Interaction (6ed arg., 2016). Roedd yn gyd-awdur Readings in Information Visualization: Using Vision to Think (1999) ac Analyzing Social Media Networks with NodeXL (2il argraffiad, 2019). Enillodd ei lyfr, Leonardo’s Laptop (MIT Press) wobr llyfr yr IEEE am Gyfraniad Llenyddol Nodedig. Mae The New ABCs of Research: Achieving Breakthrough Collaborations (Rhydychen, 2016) yn amlinellu sut y gall ymchwil greu mwy o effaith. Cafodd ei lyfr newydd, Human-Centered AI, ei gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Rhydychen ym mis Ionawr 2022.