Partnership module students with certificates

Daeth staff a myfyrwyr o'r Adran Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol a Hyb Include ynghyd i ddathlu llwyddiant newydd gwych sy'n chwalu rhwystrau ac yn mynd â dysgu myfyrwyr i leoedd newydd.

Am y tro cyntaf, cafodd nifer dethol o fyfyrwyr Troseddeg y cyfle i weithio ochr yn ochr â myfyrwyr o Hyb Include, gan gydweithio i herio agwedd y System Cyfiawnder Troseddol at weld a thrin pobl.

Cafodd myfyrwyr o'r Hyb a'r Brifysgol brofiad o amgylchedd dysgu cwbl wahanol. Addysgwyd myfyrwyr gyda'i gilydd yn y Brifysgol ac yn yr Hyb, sy'n brosiect cymunedol yng nghanol Abertawe.

Cyfunodd y modiwl ddealltwriaeth academaidd o broses pobl yn rhoi’r gorau i droseddu â phrofiad uniongyrchol pobl sy’n cael eu dieithrio ac sy’n ymdopi â stigma.

Meddai'r Athro Ryan Murphy, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol: ‘Mae cymuned wrth wraidd Prifysgol Abertawe a dyna hanfod y modiwl newydd hwn.’

Meddai'r Athro Debbie Jones, Cydlynydd y Modiwl ac Arweinydd Addysg Ysgolion ar gyfer Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol:

‘Mae'n hyfryd gweld y prosiect yn cwblhau'r cylch. Mae'r modiwl hwn wedi'i seilio ar astudiaeth a ariannwyd gan yr SRHE (Society for Research into Higher Education) i archwilio cyfraniad addysg uwch at gefnogi pobl i ymwrthod â throseddu, a gynhaliwyd mewn partneriaeth ag Include. Mae'r modiwl wedi dod â myfyrwyr Troseddeg ac Include ynghyd i ddysgu gyda'i gilydd ac mae'r canlyniadau wedi bod yn syfrdanol. Dyma enghraifft wych o fyfyrwyr yn cydweithio i gefnogi ei gilydd a chael profiad ymarferol o addysgu dan arweiniad ymchwil.’

Gallwch ddarllen mwy am ymchwil yr Athro Jones yma: Higher Education and Desistance from Offending | srhe (srheblog.com).

Ceir rhagor o wybodaeth am waith Hyb Include yma: Who We Are - Include (include-uk.com)

Rhannu'r stori