Helen Lewis with her dogs

Fel rhan o brosiect Grant Ymchwil Bach Leverhulme, mae Helen Lewis, Athro Cyswllt a Chyfarwyddwr Rhaglen y cwrs TAR Cynradd newydd ym Mhrifysgol Abertawe, wedi bod yn ymchwilio i sut a pham mae ysgolion yn cynnwys cŵn mewn ystafelloedd dosbarth.

Ers pandemig Covid-19, mae ymchwil wedi nodi cynnydd mewn pryderon am les disgyblion.

Ar y cyd â Janet Oostendorp-Godfrey, sef Swyddog Ymchwil y prosiect, cynhaliwyd arolwg o dros 1000 o athrawon ynghylch eu harferion a chanfuwyd bod dros 70% o ysgolion sydd â chi yn gwneud hynny gyda'r nod o gefnogi lles disgyblion.

Er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd i annog plant gyda'u sgiliau dysgu a chymdeithasol, mae ysgolion yn ne Cymru yn mabwysiadu ymagwedd fodern, gan symud o  gynlluniau ‘darllen i gŵn’ mwy cyfarwydd a chynnwys cŵn llawer yn fwy rhyngweithiol.  

Canfu'r prosiect fod y rhan fwyaf o athrawon a phlant yn gadarnhaol iawn am yr effaith a gafodd y cŵn ar amgylchedd yr ystafell ddosbarth a'u buddion, er enghraifft o ran hybu hyder, sgiliau cymdeithasol, ymgysylltu a phresenoldeb.

Her sy'n wynebu'r arfer hwn ar hyn o bryd yw nad oes rheoliadau na chanllawiau cenedlaethol ar gyfer ysgolion sy'n dymuno dechrau menter o'r fath. Yn enwedig os yw athrawon yn defnyddio eu cŵn eu hunain yn hytrach nag ymwneud â sefydliadau allanol fel Burns by Your Side, sy'n cynnal eu prosesau hyfforddi ac asesu eu hunain.

Yn yr enghreifftiau gorau o arfer a arddangoswyd drwy'r astudiaeth, roedd athrawon yn creu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio chwareus diogel a reolir yn dda sy'n gweithio orau i ddisgyblion a'r cŵn.

Dywedodd yr Athro Cyswllt Helen Lewis y canlynol:

'Mae tystiolaeth glir bod cael ci yn yr ysgol yn esgor ar fanteision cadarnhaol i lawer o ddisgyblion, yn enwedig o ran eu lles a'u hymgysylltiad â dysgu. Fodd bynnag, mae ein hymchwil yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw paratoi'n ofalus, cynllunio ar gyfer rhyngweithio chwareus, parchus, a dewis ci sy'n mwynhau bod yng nghyd-destunau ysgol.'

I gloi, nod y canfyddiadau yw hysbysu a pharatoi athrawon, plant a chŵn yn well fel y gellir cefnogi anghenion a lles pawb yn llawn er mwyn i bawb elwa.

I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod i stori newyddion y BBC:

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-61900293

Rhannu'r stori