Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r modiwl hwn yn eich cefnogi wrth archwilio amrywiaeth o ddulliau rheoli newid a gwerthuso sut y gellir eu cymhwyso i greu gwelliannau ansawdd ystyrlon yn eich cyd-destun gwaith. Byddwch yn archwilio'n feirniadol fodelau sefydledig o newid, yn ystyried eu perthnasedd i'ch cyd-destun proffesiynol eich hun, a datblygu'r hyder i gynllunio, gweithredu a chynnal newid o fewn eich gwasanaeth. Trwy ddadansoddiad feirniadol a myfyrdod, byddwch yn adeiladu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i arwain newid effeithiol sy'n gwella ansawdd a dylanwad y gofal.
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i archwilio a defnyddio strategaethau effeithiol ar gyfer arwain gwelliant ansawdd mewn ymarfer. Byddwch yn adolygu'n feirniadol beth sy'n gweithio, pam mae'n gweithio, a sut gellir cyflawni newid positif mewn lleoliadau gofal plant y byd go iawn.
Modiwl dysgu seiliedig ar waith yw hwn. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â'r holl ddysgu o fewn eu man gwaith cyflogedig. Darperir goruchwyliaeth academaidd ar gais y myfyriwr — hyd at 50 munud y mis am gyfnod y modiwl. Cynigir setiau dysgu gweithredu fel un sesiwn 90 munud rhyng-broffesiynol a/neu un sesiwn proffesiwn penodol 60 munud y mis.