Trosolwg o'r Cwrs
Mae diabetes wedi cyrraedd cyfrannau epidemig byd-eang ac mae'n prysur ddod yn glefyd diffiniol yr 21ain ganrif. Mae hefyd yn her fawr i sefydliadau iechyd o ran rheoli clefydau cronig. Mae'r modiwl hwn yn darparu'r sylfaen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyflwyno gofal diabetes amlddisgyblaethol o ansawdd uchel yn gymhwyster achrededig mewn Gofal Diabetes gan Brifysgol Abertawe. Mae’r modiwl yn galluogi myfyrwyr i ymestyn eu rhwydwaith o gysylltiadau ag eraill sy’n gweithio ym maes gofal diabetes, rhannu profiadau a datblygu perthnasoedd cefnogol.
Mae meysydd thematig y cynnwys yn cael eu cyflwyno dros 5 diwrnod astudio. Mae'r rhain yn cynnwys deall diabetes, trin diabetes, atal a rheoli cymhlethdodau, sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel a grwpiau arbennig.
Oriau Cyswllt
Cwmpws a mewn ymarfer clinigol
Bydd Oriau Cyswllt yn cael eu darparu drwy gyfuniad o weithgareddau byw ar-lein ac ar y campws, a gallant gynnwys, er enghraifft, darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol a sesiynau Mentora Academaidd.