Trosolwg o'r Cwrs
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a sgiliau gweithwyr proffesiynol gofal iechyd ymhellach sy'n ymwneud â gofalu a rheoli cleifion â chlwyfau, gan gynnwys wlserau pwysau ac wlserau coesau. Bydd y modiwl hefyd yn datblygu gwybodaeth a sgiliau i asesu ac atal difrod meinwe, cynnal uniondeb croen a lleihau risg. Gan fod y modiwl yn gyfansawdd ac yn gofyn am elfennau o sgiliau ymarferol i ddiwallu anghenion cyfredol, bydd gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag o leiaf 4 diwrnod clinigol i ffwrdd o'u canolfan ymarfer mewn lleoliad delfrydol gydag arbenigwr gofal clwyfau neu glinig sy'n berthnasol i'w hanghenion maes a dysgu. Mae'r modiwl yn para 13 wythnos, felly bydd yn cael ei rannu'n 9 wythnos theori a 4 diwrnod clinigol.
30 awr lleoliad (4 diwrnod clinigol)