Deall Hunan-niweidio a Hunanladdiad: Tystiolaeth a Dealltwriaeth o Ymchwil

Trosolwg o'r Cwrs

Mae hunan-niweidio a hunanladdiad yn bryder hollbwysig o ran iechyd y cyhoedd, gyda dros 720,000 o bobl ledled y byd yn rhoi diwedd ar eu bywydau eu hunain bob blwyddyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod atal hunanladdiad yn flaenoriaeth o bwys, gan dynnu sylw at yr angen i ddatblygu cynllun gweithlu a hyfforddiant ar gyfer staff gwasanaethau perthnasol.

Gyda hyn mewn golwg, mae'r modiwl cyfunol hwn wedi'i lunio i ddatblygu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o hunan-niweidio a hunanladdiad.

Y modiwl hwn yw'r unig raglen Lefel 7 yng Nghymru sydd wedi'i llunio'n benodol i wella ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a sgiliau cyfathrebu o ran hunanladdiad a hunan-niweidio. Mae'n canolbwyntio ar ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu effeithiol a gwerthuso ymyriadau presennol yn feirniadol, gan ddyfnhau eich dealltwriaeth o sut y cynhelir ymchwil i hunan-niweidio a hunanladdiad.

Mae 65% o'r cynnwys yn cael ei gyflwyno ar-lein, gyda 35% yn digwydd wyneb yn wyneb. Mae'r dysgu ar-lein yn cynnwys 9 darlith wedi'u recordio, sy'n cael eu rhyddhau mewn 4 bloc, a 6 seminar fyw sy'n cael eu cynnal ar Microsoft Teams. Cynhelir y gweithgareddau ar-lein yn ystod wythnosau 1–6, gydag egwyl yn wythnos 7 i weithio ar eich asesiad cyntaf, ac yna'r elfen wyneb yn wyneb; gweithdy dulliau ymchwil deuddydd, a gynhelir yn wythnos 8. Mae cynnwys a strwythur llawn y rhaglen wedi'u rhestru isod.

Fel cwrs byr, mae'r modiwl hwn yn cynnig datblygiad proffesiynol hyblyg a phenodol sy'n hygyrch i weithwyr proffesiynol, gan gynnal y trylwyredd academaidd a ddisgwylir ar Lefel 7.

Sylwer: Bydd arweiniad at gymorth ar gael drwy gydol y modiwl hwn ar gyfer unrhyw unigolion sy'n gweld y pynciau a'r cynnwys yn heriol neu'n gynhyrfiol.

Manylion Allweddol y Cwrs

Lefel y cwrs: FHEQ7
Dull astudio: Cyfunol
Lleoliad: Ar-lein/Campws Parc Singleton
Hyd: 8 wythnos

 

Dyddiad cychwyn

Ffioedd y DU/ Rhyngwladol

28 Ionawr 2027

£1,100

1 Ebrill 2027 £1,100

 

Pam dewis y cwrs hwn?

Manteision y rhaglen

  • Gwella eich ymwybyddiaeth a'ch dealltwriaeth o'r ffactorau seicolegol, cymdeithasol a biolegol sy'n dylanwadu ar brofiadau o hunanladdiad a hunan-niweidio.
  • Datblygu a mireinio eich strategaethau cyfathrebu ar gyfer ymgysylltu ag unigolion sy'n profi meddyliau hunanladdol neu'n hunan-niweidio, gan addasu eich dull gweithredu i ddiwallu anghenion amrywiol poblogaethau sydd mewn perygl.
  • Gwerthuswch effeithiolrwydd, cyfyngiadau ac ystyriaethau moesegol atal hunanladdiad – trwy strategaethau ymyrryd ac ôl-ymyrryd mewn lleoliadau clinigol, cymunedol ac ym maes polisi – gan ddefnyddio'r rhain i ddylanwadu ar eich ymarfer eich hun.
  • Datblygwch eich dealltwriaeth o ddulliau ymchwil gwahanol, a sut y gellir eu defnyddio i hyrwyddo ymchwil i atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
  • Datblygwch eich hyder drwy gymryd rhan mewn dysgu cydweithredol, datblygu sgiliau cyfathrebu effeithiol gyda chydweithwyr, ymchwilwyr a'r rhai sy'n profi hunan-niweidio a hunanladdiad.

Yn addas i

Mae hunan-niweidio a hunanladdiad yn faterion iechyd cyhoeddus arwyddocaol ac eang, sy'n cael effeithiau sylweddol a pharhaus ar draws gofal iechyd, yn ogystal â llawer o sectorau a gwasanaethau eraill. Gan y gall unigolion sy'n profi trallod hunanladdol ddod i gysylltiad ag ystod eang o weithwyr proffesiynol, mae'r rhaglen wedi'i llunio i fod yn gynhwysol ac yn ddefnyddiol ar draws amrywiaeth o rolau, gan gynnwys:

    • Gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol
    • Gweithwyr proffesiynol meddygol
    • Gweithwyr y trydydd sector
    • Unrhyw un sy'n dymuno gwella eu dealltwriaeth o hunanladdiad a hunan-niweidio

Yr addysgu

Mae'r modiwl wedi'i gynllunio, a chaiff ei gyflwyno, gan arbenigwyr sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol ym maes hunan-niweidio a hunanladdiad, gyda mewnbwn uniongyrchol gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio a grŵp cynghori'r Ganolfan sy'n cynnwys pobl â phrofiad bywyd. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod eich dysgu yn gadarn yn academaidd, wedi'i seilio ar egwyddorion moesegol a’i lywio gan safbwyntiau o'r byd go iawn.

Yr hyn a ddysgwch

Gofynion mynediad

Bydd angen gradd israddedig ar gyfranogwyr, ac oherwydd yr elfennau wyneb yn wyneb sy'n ofynnol ar gyfer y rhaglen, bydd angen iddynt fod wedi'u lleoli yn y DU.

Sut i wneud cais

Dylid cyflwyno ceisiadau ar-lein.

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â ni.

Gwnewch gais nawr

Am Abertawe

Croeso i Brifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae ein cymuned amrywiol a chroesawgar yn ffynnu ar archwilio a darganfod, a cheir cydbwysedd o addysgu ac ymchwil rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd gwych. Mae myfyrwyr sy'n astudio yma yn mwynhau, yn cael eu hysbrydoli ac yn cyflawni - sydd oll yn rhoi cyfle gwell iddynt sicrhau rhagolygon cyflogaeth rhagorol.

Mae ein cymuned amlddiwylliannol yn cynnig safbwynt byd-eang, gan alluogi'r rhai sy'n ymuno â ni i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a fydd yn eu rhoi ar ben ffordd tuag at yrfaoedd llwyddiannus a gwerthfawr.