Hilary Rodham Clinton

Cyrsiau Proffesiynol yn Ysgol Y Gyfraith

Mae Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe yn ddarparwr addysg gyfreithiol blaenllaw, gydag amrywiaeth o gyrsiau ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae'r Gyfraith yn Abertawe yn rhoi ffocws cryf ar ddysgu drwy brofiad trwy fentrau amrywiol gan gynnwys y Prosiect Camweinyddu Cyfiawnder, ymryson ac eiriolaeth. Mae gan yr Ysgol hefyd Glinig y Gyfraith arobryn, sy'n rhoi cyfle gwych i roi sgiliau ar waith trwy gynghori cleientiaid go iawn.

Mae Ysgol y Gyfraith yn dod â theori academaidd ynghyd ag arfer proffesiynol, i ddarparu addysg sydd ar flaen y gad ac a yrrir gan ymchwil. Mae’r Ysgol wedi sefydlu cysylltiadau ymarferol, gan ddarparu lleoliadau gwaith amrywiol a chyfleoedd interniaeth. Rhan allweddol o arlwy’r Ysgol yw ei Chyrsiau Proffesiynol, sy’n darparu’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer gyrfa gyfreithiol lwyddiannus.