logo DVLA

DVLA

Cefndir

Fel cyflogwr sylweddol yn ne Cymru, roedd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau am ehangu nifer y gweithwyr TG medrus a oedd ar gael wrth iddynt ddod â’r gwaith TG yn fewnol.

Bodloni’r her

Ym mis Medi 2015, i wynebu’r her hon, cofrestrodd y DVLA 20 o’i weithwyr ar Raglen Gradd Sylfaen mewn Cyfrifiadureg (FdSc) dwy flynedd ym Mhrifysgol Abertawe, rhaglen yn y gweithle a oedd ar gael i weithwyr amser llawn mewn cwmnïau preifat (fel arfer).

Mae achrediad llawn i’r radd hon ar gyfer Fframwaith Prentisiaethau Uwch a gydnabyddir gan y diwydiant, sef Cymhwyster Lefel 4, gyda llawer o fanteision proffesiynol i’r myfyrwyr a’u cyflogwyr.

Canlyniadau llwyddiannus

Mae’r strategaeth hon wedi helpu i symud diwylliant y DVLA tuag at ddyfodol digidol.

Yn ôl Nigel Willis, Pennaeth Portffolio Rheoli a Gallu’r DVLA, "Bydd hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygiad economaidd ein gwaith drwy ffurfioli ein sgiliau ‘digidol’ a fydd yn ehangu ein gwaith presennol, bydd yn datblygu gwasanaethau’r llywodraeth ymhellach ac yn cyflwyno gweithgareddau i’r sefydliad.”

Mae Iain Patterson, Prif Swyddog Technegol y DVLA, yn llwyr gefnogi’r rhaglen, yn y DVLA ac mewn prifysgolion lleol. Meddai Iain, “Rydym yn buddsoddi’n sylweddol yn ein pobl. Mae gennym ecosystem gref o sgiliau, addysg a chyfleoedd am swyddi yr ydym yn eu cyfuno er mwyn i’n pobl ddychwelyd i astudio er mwyn bod yn bobl ddigidol.”‌

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut gallwn eich helpu gyda’ch anghenion hyfforddiant proffesiynol, cysylltwch â ni.